Y Gwasanaeth Tân yn brwydro tȃn gwyllt yn ardal Llanfair-ym-Muallt
Mae'r Gwasanaeth Tân yn parhau i frwydro tȃn gwyllt yng Nglasgwm ger Llanfair-ym-Muallt ddydd Mawrth.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod criwiau wedi bod yn yr ardal ers toc cyn 12:30 ddydd Llun.
Roedd diffoddwyr tȃn o Lanfair-ym-Muallt, Y Gelli Gandryll, Aberhonddu, Llandrindod, Llanandras, Y Drenewydd, Machynlleth, Llanfyllin, Llanwrtyd, Tref-y-Clawdd ac Aberaeron wedi cael eu galw i'r digwyddiad.
Mae’r tȃn wedi effeithio ar tua 90 hectar o dir yn barod.
Mae cais i aelodau o’r cyhoedd i osgoi’r ardaloedd sydd wedi eu heffeithio er mwyn galluogi i’r gwasanaethau brys i weithio yn effeithiol.
Mae’r Gwasanaeth Tân hefyd yn cynghori’r rheini sydd wedi cael eu heffeithio gan fwg i aros tu mewn os yn bosib a chadw ffenestri a drysau ar gau.