Rhybudd melyn am fellt a tharanau yn nwyrain Cymru

Rhybudd tywydd

Mae rhybudd melyn am fellt a tharanau wedi ei gyhoeddi ar gyfer dwyrain Cymru ddydd Mercher.

Bydd y rhybudd yn dod i rym am 03:00 fore Mercher ac yn parhau tan 22:00 y noson honno.

Mae’r rhybudd ar gyfer siroedd Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, rhannau o Wynedd, Sir Fynwy, Powys a Wrecsam.

Yn ôl y Swyddfa Dywydd, mae siawns dda y bydd amodau gyrru yn cael eu heffeithio gan ddŵr ar y ffordd, dŵr yn tasgu neu genllysg, gan arwain at deithiau hirach mewn ceir a bysiau.

Mae oedi i wasanaethau trên hefyd yn bosib.

Mae’r rhybudd yn dweud y gallai mellt achosi rhywfaint o ddifrod i rai adeiladau a strwythurau, ac mae colli trydan neu wasanaethau eraill am gyfnod byr yn debygol mewn rhai ardaloedd.

Mae llifogydd mewn nifer fach o gartrefi a busnesau hefyd yn bosib, gyda’r potensial am ddifrod i adeiladau neu strwythurau.

Fe allai hyd at 50mm o law ddisgyn mewn cyfnod o ddwy i dair awr, meddai'r Swyddfa Dywydd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.