Caerfyrddin: Golwg tu mewn i ddatblygiad £41m hen siop Debenhams

Atriwm, Caerfyrddin
Atriwm, Caerfyrddin

Mae offer chwarae meddal, golff antur dan do a thrac cartio trydan bach ymhlith y cyfleusterau sy’n cael eu gosod yn hen siop Debenhams yng Nghaerfyrddin.

Mae gwaith yn parhau i drawsnewid yr adeilad yng nghanolfan siopa Rhodfa Santes Catrin yn ganolfan iechyd, addysg a hamdden gwerth £41 miliwn.

Bydd yr adeilad, a fydd yn cael ei alw’n Atriwm, hefyd yn cynnwys arena TAG Active, caffi a champfa 24 awr gyda stiwdios troelli a gweithgareddau.

Mae nifer o ystafelloedd triniaeth iechyd yn cael eu creu, gan gynnwys lle ar gyfer gwasanaethau deintyddol.

Bydd gan hyfforddwyr iechyd a gofal cymdeithasol ystafell wylio er mwyn arsylwi ar y rhai sy'n hyfforddi mewn ward ysbyty realistig ar un ochr, a chegin ac ystafell fyw ar yr ochr arall.

Cyngor Sir Caerfyrddin sy'n gyfrifol am y prosiect, ac mae’n disgwyl i’r gwaith gael ei gwblhau yn gynnar yn 2027.

Image
Hazel
Cyng. Hazel Evans

“Mae’n mynd i fod yn anhygoel,” meddai’r Cynghorydd Hazel Evans, aelod cabinet y cyngor sydd â chyfrifoldeb dros adfywio.

"Pan fyddwch chi’n ystyried beth fydd yma a faint o bobl y bydd yn eu denu i’r dref, mae’n fuddsoddiad hirdymor ac yn werth chweil.

“Does dim byd gwaeth nag adeilad segur.”

Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a’r cyngor yn defnyddio’r adeilad.

Image
Soft Play
Ardal chwarae i blant

Bydd y cyngor yn symud ei ganolfan gwasanaethau cwsmeriaid yno, yn ogystal â rhedeg y gampfa a’r ardal weithgareddau i blant.

Bydd gwasanaethau’r bwrdd iechyd yn cynnwys timau nyrsio cymunedol a phlant, therapïau i blant a phobl ifanc, a gwasanaethau deintyddol, iechyd rhywiol, fflebotomi, podiatreg ac iechyd meddwl.

Dywedodd Lee Davies, cyfarwyddwr strategaeth a chynllunio’r bwrdd iechyd, fod dod â nifer o wasanaethau ynghyd mewn un adeilad yn gam ymlaen ym maes gofal cymunedol.

“Bydd y dull integredig hwn yn ei gwneud hi’n haws i bobl gael y cymorth sydd ei angen arnynt, yn gwella canlyniadau ac yn helpu ein poblogaeth i fyw bywydau iachach,” meddai.

Image
Cwrs golf gwallgof
Golff Antur Dan Do

Dywedodd llefarydd ar ran Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant y bydd Atriwm yn cefnogi ei chwrs gradd therapi chwaraeon ac ymarfer corff.

“Bydd y lle yn darparu cyfleuster addysgu ychwanegol sy’n rhoi mynediad i fyfyrwyr at amgylchedd clinigol modern yn nes at ddefnyddwyr gwasanaethau,” meddai.

Bydd tua 20 o fyfyrwyr a phump aelod o staff yn defnyddio’r lle, gan ganolbwyntio ar addysg glinigol, adsefydlu anafiadau a chefnogi iechyd a lles y gymuned.

Costau cynyddol

Prynodd y cyngor yr adeilad ar ôl i fusnes Debenhams ar y stryd fawr fynd i ddwylo’r gweinyddwyr.

Cafodd y pryniant ei ariannu yn dilyn cais llwyddiannus gan y cyngor, sy’n cael ei arwain gan glymblaid Plaid Cymru a’r grŵp Annibynnol, i Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y DU yn 2021.

Image
Cadair deintydd
Ystafelloedd triniaeth ddeintydda

Cafodd cynllun ailddatblygu ei gymeradwyo ym mis Ionawr 2022, dyfarnwyd contract adeiladu yn 2023 a dechreuodd y gwaith yn 2024.

Mae grŵp Llafur y cyngor wedi beirniadu’r costau cynyddol a’r oedi. Galwodd un cynghorydd am ymchwiliad yn gynharach eleni ar ôl i broblemau strwythurol oedd heb eu nodi’n flaenorol ddod i’r amlwg.

Mae rhai o waliau allanol yr adeilad yn cael eu hailadeiladu oherwydd y diffygion, ac mae cysylltau wal newydd yn cael eu gosod.

Cafodd y cyngor £19.6 miliwn yn wreiddiol o’r Gronfa Ffyniant Bro, yn seiliedig ar yr hyn a ddisgrifiodd fel dyluniad cysyniadol yn 2021.

Image
Swyddfa
Un o'r swyddfeydd 

Dywedodd y cyngor fod y cynllun wedi ehangu’n sylweddol ers hynny, gan gynnwys rhagor o wasanaethau iechyd a chanolfan weithgareddau. Mae’r problemau strwythurol a chwyddiant yn y sector adeiladu hefyd wedi ychwanegu at y gost, meddai'r cyngor.

Mae’r cyngor yn amcangyfrif y bydd y gwaith atgyweirio yn costio £4.2 miliwn.

Dywedodd nad oedd yr arolwg adeiladu annibynnol gwreiddiol wedi nodi unrhyw broblemau strwythurol sylweddol heblaw am y to.

Er mai yn 2010 yr agorodd yr adeilad, dywedodd y cyngor fod problemau o’r fath yn risg gydnabyddedig wrth addasu adeiladau mawr.

Mae to newydd wedi’i osod, gyda 63 o baneli solar arno ynghyd â chyfarpar mecanyddol a thrydanol.

Image
Paneli Solar ar y to
Mae 63 o baneli solar ar do 'Atriwm'

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Lywodraeth y DU, sy’n cyfrannu £20.19 miliwn, Cyngor Sir Caerfyrddin, sy’n cyfrannu £11.458 miliwn, a Llywodraeth Cymru, sy’n cyfrannu £9.045 miliwn. Mae partneriaid hefyd yn cyfrannu ychydig dros £309,000.

Dywedodd y cyngor fod y prif gontractwr, Bouygues UK, wedi is-gontractio pecynnau o waith, gan olygu bod y rhan fwyaf o’r gweithlu yn lleol.

Mae cyfanswm o 31 o brentisiaid wedi bod yn rhan o’r prosiect ac mae 21 o swyddi i newydd-ddyfodiaid wedi’u creu.

Dywedodd y cyngor fod Atriwm bellach yn brosiect mwy ac uchelgeisiol nag oedd wedi’i fwriadu’n wreiddiol, gyda mwy o fanteision yn cael eu disgwyl i’r economi leol.

“Er bod heriau wedi dod i’r amlwg yn ystod y gwaith, y nod o hyd yw creu ased mawr yng nghanol y dref a fydd yn gwasanaethu cymunedau ledled Sir Gaerfyrddin am ddegawdau i ddod,” meddai.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.