Disgwyl i ymosodwr Cymru Brennan Johnson arwyddo i Crystal Palace
Mae ymosodwr Cymru a Tottenham Hotspur, Brennan Johnson, wedi arwyddo i Crystal Palace am ffi o £35 miliwn yn ôl adroddiadau.
Y gred yw y gallai'r cytundeb am ymosodwr Cymru gael ei gwblhau erbyn ddydd Gwener, a fyddai'n ei alluogi i gael ei enwi yng ngharfan Palace ar gyfer y gêm yn erbyn Newcastle ddydd Sul.
Fe gafodd trafodaethau rhwng Johnson a rheolwr Crystal Palace Oliver Glasner eu cynnal ddydd Iau.
Y gred yw bod ffi o £35m wedi cael ei gytuno gyda Tottenham yn gynharach yr wythnos hon.
Mae Johnson wedi chwarae 42 o gemau dros Gymru, gan sgorio saith gôl, yn ogystal â 107 gêm dros Tottenham a 27 gôl.