Rygbi WXV: Cymru yn curo Japan gyda thri chais
Yn ennill ei 50fed cap, Alex Callender arweiniodd garfan Cymru i'r cae fel capten.
Wedi wyth munud o chwarae, llwyddodd Kelsey Jones i groesi'r llinell, ond chafodd y cais ddim ei ganiatáu.
Ond daeth cais cyntaf y Cymry ar ddiwedd yr hanner cyntaf, wedi 35 munud o chwarae, gyda chais Seren Lockwood.
Gyda throsiad llwyddiannus Freya Bell, roedd hi'n 0-7 wedi'r chwiban hanner amser.
Bu'n rhaid i Freya Bell adael y cae ar ddechrau'r ail hanner oherwydd anaf.
Ac wedi awr o chwarae, gadawodd Nel Metcalfe y cae gyda Lleucu George yn camu i'r maes.
Chwarter awr cyn diwedd y gêm, daeth ail gais Cymru, gyda Kelsey Jones yn ymestyn y fantais, a'i gwneud hi'n 12-0 i dîm Sean Lynn.
Rai munudau'n ddiweddarach, roedd hi'n ymddangos fod Cymru wedi cael y trydydd cais, ond roedd Kelsey Jones yn camsefyll.
Ond daeth y trydydd cais ym munudau ola'r gêm gyda Seren Lockwood yn sgori0 ei hail gais.
Cafodd y Cymry eu profi, ond roedd hon yn fuddugoliaeth gyfforddus wrth i dîm Sean Lynn orffen y gêm yn gryf a hyderus.
Sgôr terfynol: Japan 0-17 Cymru
Llun: Undeb Rygbi Cymru