Penodi bardd yn artist cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri

Llun: Parc Eryri
Artist Mewn Gwasanaeth - Parc Eryri

Mae’r bardd Meleri Davies wedi ei phenodi’n artist cyntaf Parc Cenedlaethol Eryri.

Bydd hi'n defnyddio barddoniaeth a dulliau creadigol eraill i helpu cymunedau lleol i gyfrannu at gynlluniau i ddatblygu Plas Tan y Bwlch ger Maentwrog.

Mae’r cynllun, o’r enw Plas y Bobol, yn cynnwys datblygu pencadlys a chanolfan gymunedol ar y safle.

Cafodd Meleri Davies ei magu yng Nghwm Prysor ym Meirionnydd, ond mae bellach yn byw yn Nyffryn Ogwen.

Bu’n Brif Weithredwraig Partneriaeth Ogwen am 10 mlynedd, ac mae ganddi brofiad o ddatblygu prosiectau cymunedol ar draws Gwynedd.

Enillodd ei chyfrol gyntaf o farddoniaeth, Rhuo ei distawrwydd hi, wobr Llyfr y Flwyddyn yn y categori barddoniaeth yn 2025.

Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Meleri: “Hogan o Feirionnydd ydw i a dwi wrth fy modd mod i’n cael dod nol adra i weithio ar y prosiect yma.

“Oherwydd fy mhrofiad datblygu cymunedol, mi fydda i’n dechrau wrth fy nhraed ac yn cysylltu efo mentrau cymunedol y dalgylch i fynychu digwyddiadau perthnasol yn lleol.”

Pontio rhwng y Parc a'r gymuned

Bydd Meleri yn gweithio gyda’r Awdurdod am bron i flwyddyn, gan ymwneud â chymunedau Maentwrog, Llanfrothen, Ffestiniog, Talsarnau, Porthmadog a Phenrhyndeudraeth.

Bydd rhan o’i gwaith yn canolbwyntio ar gynnwys pobl ifanc a chasglu barn trigolion lleol am ddyfodol Plas Tan y Bwlch.

Y bwriad yw defnyddio barddoniaeth, gweithdai a gweithgareddau creadigol eraill i gofnodi datblygiad y prosiect a chyfleu safbwyntiau’r cymunedau i’r Awdurdod.

Dywedodd Meleri: “Dwi’n gweld fy hun fel pont, rhwng y Parc a’r cymunedau lleol sy’n amgylchynnu’r Plas.

“Mae ‘na gymaint o ystyriaethau wrth ddatblygu canolfan eiconig fel Plas Tan y Bwlch ond mae ‘na hefyd gyfoeth o wybodaeth lleol a chymunedol sydd angen bwydo fewn i’r broses.

“Dwi’n gobeithio y galla i weithio efo’r cymunedau lleol yn greadigol i gyfleu straeon a negeseuon pwysig i’r Parc wrth iddyn nhw gynllunio datblygiad y Plas.”

Yn ôl Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri, cafodd prosiect Plas y Bobol ei sefydlu mewn ymateb i alwadau gan drigolion a phobl ifanc am fwy o gyfleoedd celfyddydol a diwylliannol yn yr ardal.

Gweithgareddau creadigol

Dywedodd Prif Weithredwr yr Awdurdod, Jonathan Cawley, fod mynediad at weithgareddau creadigol mewn ardaloedd gwledig yn gyfyngedig.

Ychwanegodd mai nod y prosiect yw mynd i’r afael â hynny, gan adeiladu ar hanes Plas Tan y Bwlch fel canolfan addysg.

Fel rhan o’r cynlluniau, bydd yr Awdurdod yn cydweithio â chwmni theatr Frân Wen ac artistiaid lleol eraill i gynnig gweithgareddau creadigol i bobl ifanc.

Dywedodd Naomi Jones, Cyfarwyddwr Rheolaeth Tir yr Awdurdod, y bydd y gweithgareddau’n cyfuno’r amgylchedd naturiol, y Gymraeg a’r celfyddydau.

Y gobaith yw y bydd hynny’n helpu pobl ifanc i ddatblygu sgiliau creadigol a chryfhau eu cysylltiad â’r ardal a’u hunaniaeth ddiwylliannol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.