Llanelwy: Arestio dyn wedi anafiadau difrifol i ddau mewn gwrthdrawiad
Mae Heddlu Gogledd Cymru yn apelio am dystion yn dilyn gwrthdrawiad difrifol yn Llanelwy nos Iau.
Cafodd swyddogion eu galw i'r Stryd Fawr yn y ddinas am 22:00 yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng tri cherbyd.
Cafodd dau unigolyn eu cludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol, ac mae dyn 41 oed wedi’i arestio mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dywedodd y rhingyll Alun Jones o’r Uned Troseddau Ffyrdd: “Dwi’n ymwybodol bod nifer o bobl yn yr ardal ar y pryd, ac efallai eu bod nhw wedi ffilmio’n syth ar ôl y gwrthdrawiad.
“Mi fuaswn i’n annog unrhyw un sydd efo fideo o’r digwyddiad ddoe, a heb siarad efo’r heddlu hyd yma i gysylltu efo ni. Mi all fideo sydd i’w weld yn ddibwys helpu’r ymchwiliad.”
Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu drwy wefan Heddlu Gogledd Cymru, drwy ffonio 101, neu gysylltu’n ddienw â Crimestoppers, gan ddefnyddio’r cyfeirnod O173370.