Cyhuddo dyn o Sir Benfro o droseddau llosgi bwriadol honedig
Mae o Sir Benfro wedi ei gyhuddo o nifer o droseddau honedig o losgi bwriadol.
Mae Liam Arnold, 45 oed, o Hwlffordd wedi ei gyhuddo o dau achos o losgi bwriadol a thri achos o geisio llosgi'n fwriadol.
Cafodd swyddogion Heddlu Dyfed Powys eu galw yn dilyn adrodiad am becyn amheus yng Nhlos Williamston ger Clwb Criced Hwlffordd ddydd Sul.
Fel rhan o'u hymchwiliad aeth swyddogion i gartref Liam Arnold a'i arestio.
Fe wnaeth ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Iau ac fe gafodd ei gyhuddo o'r troseddau honedig.
Mae rhain yn cynnwys ceisio llosgi'n fwriadol ar Snowdrop Lane ar 6 Medi, llosgi cerbyd yn fwriadol yno hefyd ar 11 Hydref, a llosgi cerbyd yn fwriadol yn Hawthorn Rise ar 13 Hydref.
Mae hefyd wedi ei gyhuddo o geisio llosgi'n fwriadol ar Glos Williamston ar 18 Hydref a cheisio llosgi'n fwriadol ar Ffordd Dale ar yr un dyddiad.
Cafodd ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ar 23 Tachwedd.
Dywedodd yr Uwch-arolygydd Louise Harries o Heddlu Dyfed Powys: “Efallai bod y gymuned leol wedi sylwi ar bresenoldeb cynyddol yr heddlu yn yr ardal.
"Hoffwn ddiolch iddynt am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i ni gynnal ein hymchwiliadau.
“Hoffwn hefyd ddiolch i’r swyddogion a fu’n rhan o’r gwaith; maen nhw wedi gweithio yn ddiwyd am oriau hir i sicrhau’r cyhuddiadau hyn.”