Difrod i adeiladau wrth i Storm Austen daro Cymru a gweddill Prydain
Mae rhan o hen bier yn ne Lloegr wedi cwympo i'r môr wrth i wyntoedd cryfion Storm Austen daro Prydain, gan achosi difrod i adeiladau, toriadau i gyflenwadau trydan a phroblemau trafnidiaeth yng Nghymru.
Mae lluniau dramatig o Brighton yn dangos rhan o weddillion y West Pier hanesyddol, sydd ar gau ers degawdau, o dan y tonnau yn sgil y storm.
Storm Austen yw'r gyntaf o'r tymor tywydd garw, gyda rhybudd melyn am wyntoedd cryfion mewn grym ar draws rhannau helaeth o Gymru a Lloegr tan 21:00 nos Wener.
Ar Ynys Môn, cafodd adeilad sy'n cael ei adnewyddu ei ddifrodi gan y gwyntoedd cryfion. Dywedodd Cyngor Sir Ynys Môn fod y storm wedi achosi difrod i drawst newydd yn nho hen Adeilad y Derfynfa Forol ym Mhorth Amlwch.
Mae'r gwaith adnewyddu wedi'i atal dros dro, ac mae contractwyr wrthi'n gwneud y safle'n ddiogel, gyda'r cyngor yn cynghori trigolion i gadw draw o'r ardal nes bydd rhybudd pellach.
Yng Ngheredigion, bu'n rhaid i gaffi yn Llangrannog gau ei ddrysau ar ôl i dywod gael ei chwythu oddi ar y traeth gan y gwyntoedd cryfion.
Inline Tweet: https://twitter.com/NewyddionS4C/status/2113599964660326750?s=20
Mae llifddorau Aberaeron hefyd wedi'u cau cyn y stormydd, gyda Chyngor Sir Ceredigion yn dweud bod gweithwyr wedi bod yn delio â nifer uchel o goed wedi cwympo.
Roedd dros 1,900 o gwsmeriaid yn ne Cymru heb drydan am 11:23 fore Gwener, yn ôl gwasanaeth sy'n defnyddio data gan y Grid Cenedlaethol. Nid yw'n glir faint o'r toriadau hynny oedd wedi'u hachosi'n uniongyrchol gan y storm.
Tarfu ar drafnidiaeth
Mae Trafnidiaeth Cymru wedi gwneud newidiadau i nifer o wasanaethau trên oherwydd y tywydd garw.
Does dim trenau'n rhedeg ar reilffordd Calon Cymru rhwng Llanelli a thref Craven Arms, a hynny tan ganol dydd Sul ar y cynharaf.
Yng ngorllewin Cymru, mae gwasanaethau trên yn rhedeg cyn belled â Chaerfyrddin yn unig, gyda gwasanaethau bysiau yn eu lle ar gyfer teithiau ymlaen i Abergwaun, Doc Penfro ac Aberdaugleddau.
Mae gwasanaethau rhwng Aberystwyth a'r Amwythig wedi'u lleihau i un trên bob dwy awr ddydd Gwener a dydd Sadwrn.
Mae llai o drenau hefyd yn rhedeg ar hyd arfordir y gogledd, gyda dau drên yr awr rhwng Caer a Chyffordd Llandudno, ac un yr awr rhwng Cyffordd Llandudno a Chaergybi. Mae disgwyl i'r gwasanaethau hyn ddychwelyd i'r amserlen arferol ddydd Sul.
Mae nifer o deithiau fferi rhwng Cymru ac Iwerddon hefyd wedi'u canslo oherwydd y tywydd garw.
Cyhoeddodd cwmnïau Irish Ferries a Stena Line eu bod wedi canslo sawl fferi rhwng Caergybi a Dulyn, tra fod Irish Ferries hefyd wedi canslo gwasanaethau rhwng Doc Penfro a Rosslare.
Difrod ar draws y DU
Mae difrod a thrafferthion wedi eu cofnodi ar draws y DU, gyda ffawd West Pier Brighton yn hawlio'r penawdau.
Roedd y pier, a agorodd ym 1866, eisoes wedi dioddef difrod sylweddol dros y blynyddoedd ac wedi bod ar gau i'r cyhoedd ers 1975.
Yn ne-orllewin Lloegr, roedd dros 16,000 o eiddo heb drydan ychydig cyn 11:00 fore Gwener, yn ôl y National Grid.
Bu'n rhaid i nifer o ysgolion yng Nghernyw gau neu agor yn hwyr oherwydd y tywydd garw. Cofnodwyd hyrddiau gwynt o 76 milltir yr awr ym Maes Awyr St Mary's yn Ynysoedd Sili oddi ar arfordir Cernyw.
Rhagor o dywydd garw
Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio am hyrddiau gwynt o hyd at 55 milltir yr awr mewn rhai ardaloedd ddydd Gwener, gyda gwyntoedd cryfach mewn mannau agored.
Disgwylir rhagor o dywydd garw dros y penwythnos wrth i ail storm y tymor, Storm Boelo, gyrraedd y DU ddydd Sadwrn.
Mae rhybuddion oren wedi'u cyhoeddi ar gyfer rhannau o'r Alban, Gogledd Iwerddon a gogledd Lloegr, gyda hyrddiau o hyd at 80 milltir yr awr yn bosibl mewn rhai ardaloedd agored.
Bydd y rhybudd oren ar gyfer rhannau o'r Alban a gogledd Lloegr mewn grym rhwng 21:00 nos Sadwrn a 21:00 nos Sul.