S4C ‘ddim am ymddiheuro’ am ddefnydd o Saesneg ar raglenni

09/08/2023

S4C ‘ddim am ymddiheuro’ am ddefnydd o Saesneg ar raglenni

Mae S4C wedi dweud na fydd y sianel ‘yn ymddiheuro’ am ddefnydd o’r Saesneg ar raglenni wrth geisio denu cynulleidfaoedd newydd.

Mae’r sianel wedi derbyn beirniadaeth yn ddiweddar am ddefnydd cynyddol o’r Saesneg ar raglenni, gan gynnwys cael cymeriad di-gymraeg ar Pobol y Cwm.

Mae S4C yn dweud fod canllawiau iaith mewn lle ac yn ‘cael eu hadolygu’, ond eu bod yn ceisio cychwyn trafodaeth ynglŷn â’r defnydd o Saesneg.

Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru, dywedodd Sara Peacock, arweinydd strategaeth Gymraeg S4C: “Mae’n bwysig i ni fod Cymru gyfan yn cael ei weld a’i chlywed ar S4C.

“Ni’n trio’n galed i sicrhau bod bob math o Gymraeg sy’n cael ei siarad yn y wlad yn cael ei weld yn ein rhaglenni ni, mewn un ffordd neu’r llall.

“Mae’n hollol wir fod gywirdeb yn bwysig iawn a ni’n trio’n galed iawn i sicrhau bod ein sgriptiau wastad yn gywir, o’r rhan treiglo a’r acen ac yn y blaen.

“Mae’n bwysig bod pobol yn clywed bod ar y stryd, yn y siop, mae pobl yn defnyddio ambell i Saesneg weithiau, yn y Gymraeg, ac mae hynny’n beth naturiol i ni wneud.

“Mae sgyrsiau Saesneg weithiau yn digwydd mewn cyd-destun ble mae hynny’n bwysig i’r rhaglen. Er enghraifft, os ni am glywed llais rhywun sy’n bwysig i’r stori ond sydd ddim yn medru’r Gymraeg, mae’n bwysig i ni glywed eu llais nhw.

“Mae’n rhaid i ni glywed hyn yn y Saesneg ond sicrhau nad yw hynny yn ormodol.”

‘Mwy o bobl ifanc’

Mae’r defnydd o Saesneg yn amrywio yn ôl y rhaglen a’r cyfrwng y maent yn cael eu darlledu, yn ôl Geraint Evans, Cyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi S4C.

“Mae’r sgwrs wedi bod yn mynd ers blynyddoedd ond ni moyn ail-gydio yn y sgwrs.

“Pan da ni’n clywed rhywfaint o feirniadaeth ynglŷn â’r faint o Saesneg ar S4C, ni’n awyddus iawn i gael sgwrs adeiladol gyda’r beirniad yna ac i drafod y ffordd ymlaen i ni fel sianel.

“Un o’r pethau  sydd bwysicaf i ni fel sianel ydi ein bod ni’n gartre i bawb, hynny yw ein bod ni’n denu pwy bynnag sydd moyn dod at S4C, fel bod ei defnydd nhw o’r Gymraeg yn cael ei hyrwyddo.

“Dy’n ni ddim am i gau bobl mas, a dw i’n credu bod hi’n bwysig bod wrth ddenu pobl i’r Gymraeg, bod ni’n croesawu unrhyw fath o Gymraeg – s’dim ots beth yw ei safon nhw.

“Un o’r pethau ni’n clywed ar hyd y blynydde yw, ‘di fy Nghymraeg i ddim digon da’ – ‘da ni ddim ishe rhagor o hynny ar S4C.

“Ac er mwyn i wneud i bobol teimlo’n gartrefol, ni moyn bod nhw’n siarad y Gymraeg maen nhw eisiau siarad ar S4C, ac os yw hynny’n cynnwys rywfaint o Saesneg, ymadroddion Saesneg ac yn y blaen, wel felly y bu. Dy’n ni ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny.

“Mae o i gyd yn dibynnu ar y rhaglen a’r cyfiawnhad golygyddol ar gyfer y defnydd o unrhyw Saesneg. Mae 'na ganllawiau iaith gan S4C, mi fyddwn ni’n adolygu nhw fel rhan o’r sgwrs yma. Ond beth sy’n bwysig yw ein bod ni’n edrych ar bob rhaglen yn eu tro.

“Ar Newyddion S4C, neu Heno, neu Hansh, fyddwch chi ddim yn disgwyl iddyn nhw lynu at yr un canllawiau. Mae’r math o iaith sy’n cael ei ddefnyddio, pa mor syml yw’r iaith yna neu faint o Saesneg sy’n cael ei ddefnyddio, yn wahanol i bob cyfrwng.”

‘Cofleidio’

Rhaglenni chwaraeon sydd ymhlith y rhai mwyaf poblogaidd ar y sianel, ac mae hynny yn rhan bwysig o’r strategaeth i ddenu rhagor o wylwyr newydd.

Ac wrth geisio denu rhagor o ddysgwyr i'r sianel, mae Pobol y Cwm wedi cyflwyno cymeriad newydd di-gymraeg i Gwmderi, sef Maya Cooper.

Yr actores o Lerpwl, Sophie Mensah, sydd yn chwarae rhan Maya, ac mi fydd dilyn ei thaith fel dysgwr yn 'beth positif', yn ôl Mr Evans.

“Da ni’n bell o fod yn elynion i’r iaith.

“Dwi ddim yn credu mai poeni am fyrder ieithyddol neu i ddileu Saesneg o’r sianel yw’r frwydr y dylwn ni fod yn ei hymladd.

“Y frwydr sydd angen ei hymladd yw’r un i gael mwy o bobl ifanc i’n gwylio ni, a’r ffordd i wneud hynna yw creu cynnwys iddyn nhw sydd yn eu cyffroi nhw, fel cael yr hawliau pêl-droed ar gyfer Cymru o 2024 i 2028.

“Mae hynny yn mynd i ddenu cannoedd o filoedd o bobl i’r iaith Gymraeg, i glywed y Gymraeg a chlywed cyfraniadau gan bobl fel Aaron Ramsey, neu John Hartson neu Gwennan Harries, sydd i gyd yn gynnyrch o’n hysgolion Cymraeg ni.

“A gobeithio mai cofleidio hynny wneith bobl, nid beirniadu safon iaith unwaith eto.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.