'Cadw mewn cysylltiad efo fy nghyn-deidiau pan yn siarad Cymraeg'
'Cadw mewn cysylltiad efo fy nghyn-deidiau pan yn siarad Cymraeg'
"Bob tro dwi'n siarad Cymraeg, dwi'n teimlo 'mod i'n cadw mewn cysylltiad efo cyn-deidiau a dwi'n teimlo'n dda. Dwi'n rili licio siarad Cymraeg."
Dyna eiriau Manuel Austin sydd yn byw yn y Wladfa ond wedi dysgu Cymraeg.
Brynhawn Mawrth ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan, roedd cyfle i gael sgwrs gyda thri sydd wedi dod i Gymru o dramor i ddysgu Cymraeg sef Daniela Schlick o'r Almaen, Manuel Austin o Batagonia a Coco Bourret o Ffrainc.
Penderfynodd Manuel ddechrau dysgu Cymraeg tua 10 mlynedd yn ôl, a hynny oherwydd bod ganddo wreiddiau Cymreig.
"Dwi'n byw yn Y Wladfa, dod o Batagonia a ma' 'na lot o bobl sy'n siarad Cymraeg yna a dwi'n dod o deulu Cymraeg ochr tad fi ag o'n i isio siarad iaith fy nhaid - sef Cymraeg - a dyna pam o'n i'n dechra dysgu a trio siarad Cymraeg," meddai.
"Dwad i'r Eisteddfod, i mi, mae'n brofiad bendigedig a ti'n medru gwrando ar bobl o'r de, pobl o'r gogledd, pobl sy'n dysgu Cymraeg, sawl acen wahanol a dwi'n mwynhau.
"Bob tro dwi'n siarad Cymraeg, dwi'm teimlo 'mod i'n cadw mewn cysylltiad efo cyn-deidiau a dwi'n teimlo'n dda. Dwi'n rili licio siarad Cymraeg.
"Dwi'n byw yn y Wladfa ac mae yna bobl sy'n siarad Cymraeg, ond yn anffodus, ti ddim yn siarad Cymraeg yn y stryd neu'r siop - rhaid ti fynd i'r Eisteddfod neu unrhyw Gapel neu gyfarfod efo rhywun sy'n siarad Cymraeg.
'Pawb yn y gymuned'
Yn wreiddiol o Ffrainc, mae Coco yn byw yn Uwchmynydd gyda'i bartner Enlli.
Penderfynodd ddechrau dysgu Cymraeg gan bod Enlli yn Gymraes ac roedd yn awyddus i siarad gyda "phawb yn y gymuned".
"Dwi'n siarad Saesneg a Sbaeneg so mae'n helpu lot efo 'chi' a 'ti' a sut i ddeud 'r' a 'll' a dwi isio jyst ymarfer a siarad mwy," meddai.
Roedd Coco a'i bartner yn arfer rhedeg caffi yn Anelog ger Aberdaron a roedd yn gyfle iddo siarad Cymraeg.
"Rwan, dwi ddim yn gweithio i'r caffi so efo'r caffi o'dd o'n rili helpu jyst siarad efo cwsmeriaid bob dydd. Rwan, dwi'n gweithio adra so dwi isio ffeindio rwbath i siarad mwy bob dydd, ella côr, gawn ni weld."
Neges Coco i unrhyw un sy'n awyddus i ddysgu Cymraeg ydi i fod yn hyderus.
"Peidiwch â bod yn shei, jyst mynd allan a siarad a jyst deud 'Sori dwi'n dysgu Cymraeg, os da chi isio deud eto, bach yn arafach' ie, jyst deud i pobl achos da chi isio dysgu a ma' lot o bobl, ma' pawb yng Nghymru jyst yn rili hapus os da chi'n trio, paid a poeni os da chi'n shei, jest siarad a trio," meddai.
'Hollbwysig'
Daeth Daniela Schluck i Gymru ar wyliau a darllen am y Gymraeg, dysgu rhai geiriau a chlywed yr iaith.
Blynyddoedd yn ddiweddarach, penderfynodd ddechrau dysgu'r Gymraeg a "chracio'r côd".
"Ma'n rhan o fy mywyd i, dwi'n byw mewn cymuned Gymraeg, gweithio yn y Gymraeg a dros y Gymraeg efo mentrau iaith, mae'n ganolog," meddai.
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn gyfle i arddangos y Gymraeg ar ei gorau yn ôl Daniela.
"Ma'n hollbwysig, achos ma'n gallu dangos bod yr iaith yn fyw, bod modd mwynhau'r iaith, ma'n estyn croeso i bawb hyd yn oed os nad ydych chi'n siarad Cymraeg, ma' croeso cynnes i bawb ddod yma," meddai.
"Ma'n ddathliad ac yn gyfle i bawb daflu eu hunain i fewn a cal profiada da yn y Gymraeg."