Brechiad ‘arloesol’ i atal HIV wedi’i gymeradwyo yng Nghymru
Mae brechiad “arloesol” i atal HIV wedi’i gymeradwyo gan NICE, y corff sy’n cynghori'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru a Lloegr, ddydd Gwener.
Cabotegravir hir-weithredol (CAB-LA) yw’r brechiad cyntaf y gellir ei ddefnyddio yn lle tabled, i amddiffyn rhag y firws.
Mae'r math hwn o therapi atal HIV, a elwir yn PrEP (proffylacsis cyn-amlygiad), fel arfer yn cael ei gymryd gan bobl HIV-negatif i leihau eu risg o ddal yr haint.
Mae’r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi argymell y pigiad i oedolion a phobl ifanc sydd mewn perygl o HIV.
Mae disgwyl y bydd modd i bobl ddechrau derbyn y brechiad y brechiad, sy’n cael ei roi bob deufis, yn y flwyddyn newydd.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU, Wes Streeting, fod cymeradwyo'r pigiad yng Nghymru a Lloegr yn "gam mawr ymlaen”.
"I bobl agored i niwed nad ydynt yn gallu defnyddio dulliau eraill o atal HIV, mae’n cynrychioli gobaith," meddai.
“Rydym yn gwneud cynnydd gwirioneddol ar HIV, gyda defnydd PrEP wedi codi 8% eleni, ac mae ein huchelgais yn mynd â ni ymhellach fyth.”
Dywedodd Helen Knight, cyfarwyddwr gwerthuso meddyginiaethau NICE, bod HIV “yn parhau i fod yn her iechyd cyhoeddus ddifrifol, ond mae gennym bellach offer pwerus i atal heintiau newydd”.