
'Gobaith' yn y frwydr i dderbyn tystysgrifau marwolaeth Cymraeg
Mae gwraig weddw o Gaerdydd wedi dweud ei bod hi bellach yn teimlo "gobaith" yn ei brwydr i sicrhau tystysgrifau geni, marwolaeth a phriodas yn y Gymraeg i bawb sydd yn eu dymuno nhw.
Ddydd Mawrth, cafodd Bil ei gyflwyno yn Nhŷ’r Cyffredin gan yr Aelod Seneddol dros Orllewin Caerdydd, Alex Barros-Curtis.
Nod y Bil yw ei gwneud yn ofynnol bod unrhyw dystysgrif geni, marwolaeth neu briodas sy'n cael ei chyhoeddi yng Nghymru yn ddwyieithog neu yn y Gymraeg.
Os yw'r bil yn llwyddiannus bydd hefyd modd i siaradwyr Cymraeg yn Lloegr dderbyn tystysgrifau yn ddwyieithog neu yn Gymraeg.
Ar hyn o bryd, nid yw’r ddarpariaeth yn rhan o’r gyfraith ac yn aml mae pobl yng Nghymru yn derbyn tystysgrif uniaith Saesneg.
Wrth drafod derbyn tystysgrif marwolaeth ei diweddar ŵr, Aled Glynne Davies, yn uniaith Saesneg, dywedodd Afryl Davies wrth Newyddion S4C: “Oeddwn i’n gwybod be' oedd o ond doeddwn i ddim wedi agor yr amlen. Neshi i guddiad hi am ychydig.
“Ond pan neshi agor yr amlen, o’n i’n torri nghalon deud y gwir. Pan ti mewn galar dwys, mae pethau fel 'na yn gallu bod yn wael iawn i chdi.”

'Sefyllfa drasig'
Bu farw Mr Davies, oedd yn gyn-olygydd ar orsaf BBC Radio Cymru, ym mis Ionawr 2023.
Ar ôl derbyn ei dystysgrif marwolaeth, fe wnaeth Mrs Davies ymdrechu i gael fersiwn Gymraeg.
“O’n i di trio aelodau Llywodraeth Cymru, o’n i di trio Aelod Seneddol arall oedd â'r portffolio cyfiawnder, a 'di gofyn i’r Swyddfa Gofrestru a Swyddfa’r Crwner am help hefyd," meddai.
"A bob man o’n i’n trio, yn gyffredinol, oedden nhw’n deud ‘sori, fedran ni’m dy helpu di.”

Ychydig fisoedd yn ôl, fe wnaeth Afryl ymweld â’i haelod seneddol, Mr Barros-Curtis.
“Clywais i am sefyllfa drasig Afryl a’r teulu, sefyllfa ble roedd gennych chi Gymro balch oedd yn gweithio yn y brifddinas, a doedd hi ddim yn gallu cael tystysgrif yn y Gymraeg iddo,” meddai’r aelod Llafur dros Orllewin Caerdydd.
“A hithau’n 2025, o’n i’n meddwl bod o’n wallgof. Mae’n rhywbeth fyddech chi’n meddwl fyddai’n rhan o’r broses sylfaenol y dyddiau yma.
“Dylai pobl o Gymru, neu bobl Gymreig sydd yn byw yn Lloegr, gael y dewis i gael tystysgrif yn y Gymraeg yn unig, neu ar y lleiaf, yn ddwyieithog.”
'Er cof am Aled'
Mae sawl trafodaeth wedi bod yn San Steffan dros y degawdau ynglŷn â deddf o’r math, gyda'r Arglwydd Dafydd Elis Thomas yn cyflwyno bil yn Nhŷ’r Arglwyddi yn 1999.
Yn ôl Mr Barros-Curtis, mae’r bil wedi derbyn cefnogaeth drawsbleidiol y tro hwn, gan gynnwys yr aelod Plaid Cymru, Liz Saville-Roberts.
Ar ôl gwneud araith yn y siambr ddydd Mawrth yn cyfeirio at achos y teulu Davies, dywedodd Alex Barros-Curtis, sy’n wreiddiol o Ronant, yn Sir Ddinbych: “Roeddwn i eisiau trafod hyn er mwyn ceisio annog newid a newid y gyfraith. Mae’n bwysig i mi, fel person o Gymru, dyma ein treftadaeth.
“Fe wnes i roi teyrnged iddi hi a’r teulu, am ddefnyddio eu galar a thrasiedi eu hamgylchiadau a’u troi’n rhywbeth positif. Os ydyn ni’n llwyddo i gael y llywodraeth i newid y gyfraith, bydd hynny’n glod iddi hi ac er cof am Aled.”

Roedd Afryl yn eistedd yng ngaleri’r Tŷ'r Cyffredin wrth i’r bil gael ei gyflwyno yn ei ddarlleniad cyntaf. Mae disgwyl i’r cam nesaf yn y broses o greu deddf newydd — sef yr ail ddarlleniad — gael ei gynnal ddiwedd y mis.
“Mae pob math o emosiwn,” meddai Afryl.
“Mae gen ti falchder, tristwch. Dwi’n flin ar adegau, dwi’n rhwystredig. Mae bob dim ar draws ei gilydd oherwydd mae o’n rhywbeth sydd mor syml.
“Pan o’n i yno ddydd Mawrth yn gweld Alex yn neud ei araith, o’n i’n teimlo balchder, ond rhyddhad hefyd bod rhywun yn rhywle o’r diwedd wedi gwrando arna fi ac yn fodlon fy helpu i.
"Ond dim just i ni mae hwn, mae o i’m mhlant a phlant fy mhlant i.
“Faint o weithia mae hyn di digwydd o’r blaen, a sgen ti ddim o’r nerth na’r cryfder, ac maen nhw’n gadael o fynd?
"Pan ti ar dy wana’, ar dy liniau ac wedi bod drwy brofiad mor dirdynnol, di pethau fel hyn ddim yn rhywbeth ti’n brwydro amdano fo. Ond mae Alex 'di rhoi llygedyn o obaith i ni rŵan.”