
Cael ei fagu gyda brodyr a chwiorydd maeth wedi 'newid bywyd' bachgen 16 oed
Cael ei fagu gyda brodyr a chwiorydd maeth wedi 'newid bywyd' bachgen 16 oed
Mae bachgen 16 oed o Dorfaen wedi dweud ei fod yn “ddiolchgar” am ei fod wedi cael ei fagu gyda degau o frodyr a chwiorydd maeth, gan ddweud bod y profiad wedi “newid ei fywyd.”
Ers iddo fod yn fachgen ifanc, mae ei deulu – sydd yn cynnwys ei fam a’i dad Amy a Gavin Davies, a’i ddwy chwaer, Sage, wyth oed, ac Olive sydd yn fabi newydd-anedig naw wythnos oed – wedi bod yn maethu plant eraill yn eu cartref yng Nghwmbran.
A hithau’n Wythnos Plant Gofalwyr Maeth yr wythnos hon, mae’n dweud na fyddai “y person ydw i” heb iddo gael ei fagu yng nghwmni ei frodyr a chwiorydd maeth.
Mae’r teulu wedi edrych ar ôl dros 40 o blant ers i Amy a Gavin ddechrau maethu mwy ‘na 20 mlynedd yn ôl.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Jesse: “Mae wedi bod fel hyn ers o’n i’n fach, holl bywyd fi – fi byth yn unig hefyd.
“Mae’n helpu ti i gweld bywydau pobl arall o esgidiau nhw. Mae ‘na llawer o plant sydd yn mynd trwy bywydau drwg a mae jyst yn annheg.”
Ac mae Jesse yn dweud bod ei fagwraeth wedi rhoi’r cyfle iddo fod yn berson mwy deallus a chymdeithasol o ganlyniad.
“Mae gallu helpu y plant, a mae’n helpu plant y tŷ hefyd i fod mwy social i siarad efo pobl newydd," meddai.
“Does dim rili loss ynddo fo. Mae pob tro rhyw beth dda yn dod mas o fo.”

'Stigma'
Fe gafodd mam Jesse, Amy ei magu yn y system gofal cymdeithasol.
Fe briododd ei gŵr, Gavin, pan oedd hi’n 16 ac erbyn iddi droi’n 20 oed, fe ddaeth Amy a'i gŵr yn ofalwr maeth i'w chwaer ei hun, oedd yn 15 ar y pryd ac yn y system gofal.
Mae Amy bellach yn 43 oed ac yn dweud ei bod “mor falch” o’i theulu a’r cymorth y maen nhw wedi rhoi i blant ar hyd y blynyddoedd.
Ond mae’n dweud ei bod yn pryderu bod “stigma” am faethu yn bodoli o hyd.
Dywedodd ei bod hi wedi wynebu beirniadaeth yn y gorffennol am fod gan eu plant a’r plant maeth gyfenwau gwahanol i’w gilydd.
“Hoffwn pe bai pobl yn gallu agor eu llygaid a bod yn fwy derbyniol o deuluoedd eraill,” meddai.

'Cyfleoedd'
Mae Amy yn annog unrhyw un sydd yn ystyried maethu i wneud hynny, gan ddweud “na fyddech chi byth yn difaru rhoi yn ôl i rywun.”
Ond mae'n cydnabod yr heriau ynghlwm a bod yn ofalwr maeth, yn enwedig fel rhiant i blant eraill hefyd.
“Rwyt ti’n ofni’r effaith y gall magu plant maeth ei chael ar dy blant dy hun, oherwydd yn anffodus, mae Jesse wedi gweld rhai pethau brawychus iawn," meddai.
“Mae plant wedi datgelu pethau difrifol wrtho, mae wedi gweld troseddau gangiau gan gynnwys symud cyffuriau ar draws ffiniau sirol (‘county lines’), ac roedd e’n gwybod am lawer o bethau’n llawer cynharach nag y byddet ti byth eisiau i blentyn wybod amdanyn nhw.
“Ond ar yr un pryd, fe roddodd hynny gyfle i ni egluro’r pethau hynny iddo.”
Ac er ei fod wedi gweld nifer o blant yn profi “rhyw beth drwg yn digwydd,” mae Jesse yn dweud mai rhoi cymorth iddyn nhw yw’r peth pwysig yn y pen draw.
“Mae’n gallu cymryd amser ond maen nhw pob tro yn troi mas yn well na cyn,” meddai.
Dywedodd Alastair Cope, pennaeth Maethu Cymru y dylai rhieni “ystyried yn ofalus” cyn penderfynu maethu plant eraill.
Mae’n dweud y gallai presenoldeb plant eraill yn y cartref bod yn “fuddiol iawn” i’r teulu a’r plant maeth.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud eu bod wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn mewn gofal maeth yn cael y cyfle i "ffynnu a llwyddo.”
Dywedodd y llywodraeth ei bod yn parhau i fuddsoddi yn y gwasanaeth maethu cenedlaethol, Maethu Cymru, er mwyn cryfhau gallu gwasanaethau maethu awdurdodau lleol i recriwtio gofalwyr maeth a all "ddiwallu anghenion amrywiol a chymhleth plant" yn eu hardal lleol.