Arestio dyn ar ôl i ddyn arall farw mewn gwrthdrawiad ger y Bala
Mae dyn wedi cael ei arestio ar ôl i ddyn arall farw mewn gwrthdrawiad ger y Bala.
Mae’r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad ar yr A494 yn Llanfor tua 23.40 ddydd Mercher.
Bu farw cerddwr, dyn 43 oed, yn y fan a'r lle. Mae perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod.
Mae dyn 38 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad â'r digwyddiad ar amheuaeth o achosi marwolaeth trwy yrru'n beryglus.
Dywedodd yr uwch swyddog ymchwilio, y Prif Arolygydd Ditectif Andrew Gibson: “Rwy'n rhannu fy nghydymdeimlad dwysaf â theulu'r dyn yn yr amser anodd hwn.
“Rwy'n apelio ar unrhyw un a oedd yn gyrru ar hyd yr A494 ddydd Mercher 3 Rhagfyr, rhwng 23.00 a hanner nos, ac a allai fod â lluniau camera dashfwrdd, i gysylltu cyn gynted â phosibl.
“Gallai unrhyw wybodaeth fod yn hanfodol i'r ymchwiliad.”
Mae modd cysylltu â Heddlu Gogledd Cymru drwy'r wefan neu drwy ffonio 101, gan ddyfynnu'r rhif digwyddiad 25000989380.