'Dyw’r cymorth sydd angen ddim yna': Galw ar Lywodraeth Cymru i wella darpariaeth cyflwr ME
'Dyw’r cymorth sydd angen ddim yna': Galw ar Lywodraeth Cymru i wella darpariaeth cyflwr ME
Mae teuluoedd cleifion sydd â chyflwr ME yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau brys i sicrhau darpariaeth a gofal arbenigol ar eu cyfer.
Yn ôl Myfanwy Sleep o Abertawe, roedd ei mab Tomos, sy’n 28 oed, yn mwynhau bywyd gweithgar a phrysur cyn iddo fynd yn sâl.
“Roedd Tomos yn dipyn o gymeriad. Roedd e wastad yn llawn hwyl, wastad yn gwenu. Roedd e’n mwynhau bod gyda phobl,” meddai.
“Roedd e yn heini iawn, yn mynd i gerdded, mynd i nofio yn y môr. Roedd e yn cystadlu mewn triathlon.”
Yn 2019, dechreuodd Tomos deimlo yn flinedig drwy’r amser a dechrau dioddef pyliau o bendro.
“Pan oedd yn y brifysgol ddechreuodd gael cyfnodau o bendro, oedd yn para am amser hir a, ddim i weld yn gwella,” esboniodd Myfanwy.
“Roedd e yn mynd yn flinedig yn hawdd iawn, wrth wneud y pethe lleiaf. Oedd hynna yn anarferol iawn i fachgen oedd mor heini â fe.”
Erbyn 2023 roedd cyflwr Tomos wedi gwaethygu, nes ei fod wedi dod yn sensitif i olau a sŵn.
“Ym mis Rhagfyr 2023, daeth e mewn i’r gegin yn methu cerdded. Dwedodd e ‘dwi ddim yn gwybod beth sy’n bod mam, does dim egni gyda fi’.”
“Aeth e i orwedd i lawr, a dyna oedd y tro olaf iddo fe gerdded. Mae wedi bod yn ei wely ers hynny.”
Erbyn hyn, mae Tomos wedi cael diagnosis o Myalgic Encephalomyelitis.
Mae Myalgic Encephalomyelitis, sy’n cael ei adnabod fel ME, yn gyflwr hirdymor a all effeithio ar sawl organ wahanol o’r corff. Y symptom mwyaf cyffredin yw blinder eithafol.
Dim gwellhad
Bu’n rhaid i Tom fynd tu hwnt i Gymru i dderbyn cymorth meddygol ar gyfer ei gyflwr.
“Doedd y cymorth oedd angen ddim yna, a oedd e yn dod yn fwy a fwy sâl. Yn y diwedd roedd e yn ffeindio hi’n yn anodd mynd allan i weld y doctor, achos oedd yn cymryd gymaint o egni ganddo fe,” eglurodd Siôn.
“Roedd Tom yn lwcus i gael ni fel teulu o’i amgylch i’w gefnogi. Ond does gan lot o bobl ddim y gefnogaeth yna.”
“Mae angen mwy o gymorth arbenigol yng Nghymru i helpu pobl fel Tom. Does dim llais gyda nhw i sefyll fynnu dros eu hunain.”
Ar hyn o bryd, does dim gwellhad ar gyfer ME.
Yn ôl ymchwil yn 2025 gan Brifysgol Caeredin, mae amcangyfrif bod dros 62,000 o bobl ag ME yng Nghymru.
“Mae Tom wedi bod yn sâl iawn. Dyw e methu siarad, dim ond geiriau fan hyn neu fan draw. Felly, mae’n anodd gwybod sut mae fe yn teimlo, sut mae fe dydd i ddydd. Rhai diwrnodau mae fe i weld yn gwneud yn well, rhai diwrnodau mae fe yn waeth,” meddai ei frawd Siôn.
Mae tua 25% o achosion ME yn gallu datblygu i fod yn ME difrifol, fel sydd gan Tomos.
“Mae mam a dad yn gofalu am Tom llawn amser. Maen nhw wedi gorfod newid eu bywydau yn llwyr i ofalu amdano,” eglurai Siôn.
“Mae’n anodd gweld dy frawd yn y sefyllfa yna, heb allu siarad â fe yn iawn, neu roi cwtsh iddo fe.”
Mae deiseb wedi dechrau ar wefan y Senedd yn galw am “gamau brys” i sicrhau gwell gofal meddygol i bobl sydd â chyfwr ME.
Cafodd y ddeiseb ei sefydlu gan Shauna Chambers, 34 o Dywyn, sydd yn helpu gofalu am ei phartner Row Davies, sydd hefyd yn dioddef o ME difrifol.
Dechreuodd Row ddioddef o symptomau ME yn 2018, ac erbyn mis Ionawr 2022 roedd hi’n gaeth i’w gwely.
“Mae Row yn berson sydd yn caru bywyd, ac ishe byw bywyd i’r mwyaf. Roedd hi’n mwynhau mynd allan i weld ffrindiau a chymdeithasu, ” eglurodd Shauna.
“Os fydd ganddi hanner cyfle, bysa hi allan yn gwneud y mwyaf o’i bywyd. Mae’r clefyd ofnadwy yma wedi ei gwneud hi yn garcharor yn ei chorff ei hun.”
“Mae’r ddeiseb yn adeiladu ar waith pedair elusen ME yma yn Gymru, gyda’r bwriad o gael help i’r bobl fwyaf sâl o fewn cymdeithas, i gael y strwythurau cywir o fewn y byd meddygaeth ac i wella dealltwriaeth o amgylch y cyflwr yma” eglura Shauna.
“Mae ymchwil yn dangos bod yna triniaethau sydd yn dechrau helpu rhai cleifion, ond mae dal fwy o waith i wneud i sicrhau bod pawb yn gallu derbyn triniaeth a all eu helpu.”
Yn aml iawn, dyw cleifion ddim yn gallu cael mynediad i driniaeth gan nad ydyn nhw yn gallu mynd i weld y doctor, gan eu bod wedi eu cyfyngu i’w gwely.”
'Ar flaen y gad'
Ym mis Rhagfyr, trafododd yr AS, Adam Price, yr angen ar gyfer darpariaeth arbenigol i gleifion sydd â chyflwr ME ar lawr y Senedd.
“Gelom ni gefnogaeth wych gan aelodau’r Senedd llynedd, felly rydym ni ishe sicrhau bod y momentwm yna yn parhau gyda’r llywodraeth newydd hwn. Mae’r trafodaethau wedi digwydd, nawr yw’r amser i roi gweithredoedd yn eu lle,” esboniodd Shauna.
“Mae gan Gymru gyfle i fod ar flaen y gad o ran cymorth a gofal ME. Does dim gwlad arall yn y byd yn cynnig gofal arbenigol sy’n ddigonol i gleifion ME.”
Yn bresennol mae rhaglen Adfer ar gyfer COVID hir a gafodd ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru yn 2021, yn cynnig gwasanaethau i bobl sydd â chyflwr ME.
Ond mae’r elusen Cymorth Cefnogi ME Cymru yn dadlau nad ydy’r rhaglen yn mynd yn ddigon pell i helpu dioddefwyr.
“Er ein bod yn lwcus o gael y rhaglen Adfer yma yng Nghymru, nid yw’n cynnig cymorth penodol i gyflwr ME,” eglura Sylvia Penny, ar ran yr elusen.
“Nid yw chwaith yn cynnig cymorth a gofal cyson ar draws holl fyrddau iechyd Cymru,” meddai
Dywedodd Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn cydnabod anghenion pobl sy’n byw gydag ME ac yn cydnabod y gall gwasanaethau amrywio ledled Cymru.
“Mae gwasanaethau a ariennir gan Llywodraeth Cymru drwy Adferiad yn cefnogi pobl â chyflyrau hirdymor, gan gynnwys ME, gyda chefnogaeth o £8 miliwn y flwyddyn gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu gwasanaethau ac arbenigedd clinigol arbenigol.
“Ar ddechrau’r llywodraeth newydd hon, rydym yn ystyried cynigion pellach i gefnogi datblygiad parhaus y gwasanaeth.”
