'Anghydraddoldeb parhaus' ym maes dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae yna "anghydraddoldeb parhaus" ym maes dysgu ychwanegol drwy gyfrwng y Gymraeg, meddai adroddiad.
Mae'n dweud bod 'na brinder staff ac nad yw'r adnoddau gystal o gymharu â'r Saesneg ar gyfer disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Yn ôl un aelod o Senedd Cymru, roedd rhaid tynnu ei phlentyn o ysgol cyfrwng Cymraeg, sefyllfa oedd yn “dorcalonnus”, meddai.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yr adroddiad yn tynnu sylw at feysydd cynnydd a meysydd lle mae angen rhagor o welliannau.
Cafodd yr adolygiad pum mlynedd o ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg ei gomisiynu gan Lywodraeth Lafur Cymru'r haf diwethaf.
Mae’r adroddiad gan gwmni Ymchwil Arad yn dweud fod cynnydd wedi ei wneud dros y pum mlynedd diwethaf i gyflawni system ddwyieithog i blant a phobol ifanc sydd angen cefnogaeth drwy’r Gymraeg.
“Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau hefyd yn amlinellu anghydraddoldeb parhaus yn argaeledd a darpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg o'i gymharu â’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Saesneg,” meddai.
Dywedodd hefyd bod “bylchau a phrinder” argaeledd staff sy’n medru’r Gymraeg ar draws y rhan fwyaf o gynghorau Cymru.
Dydi’r adnoddau cyfrwng Cymraeg chwaith ddim “ar yr un lefel” a’r rhai sydd ar gael yn Saesneg, meddai.
Mae yna ddyletswydd cyfreithiol ar gynghorau Cymru i ddarparu cefnogaeth i blant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
'Torcalonnus'
Cafodd mab Sera Evans, aelod Plaid Cymru o Senedd Cymru, ddiagnosis o awtistiaeth pan oedd yn saith oed.
Cyn y pandemig pan oedd ym mlwyddyn 5, fe dynnodd e o addysg cyfrwng Cymraeg gan nad oedd y ddarpariaeth, meddai, yn ddigonol iddo.
“Oedd e’n dorcalonnus..a dwi’n edrych yn ôl ar y cyfnod gyda lot o dristwch ac ychydig o ddicter hefyd,” meddai’r aelod dros Afan Ogwr Rhondda.
“(Does) dim bai ar yr athrawon, dim bai ar yr ysgolion ond doedd y ddarpariaeth Gymraeg ddim cystal â beth oedd ar gael yn y sector Saesneg.”
Cymraeg ydi iaith yr aelwyd, ond mae Sera’n bryderus y bydd 'na rai disgyblion eraill yn colli’r cyfle.
“Mae fe wedi gallu parhau i siarad Cymraeg gyda fi yn y tŷ a’r teulu ond dwi’n poeni’n fawr fod lot fawr o blant yn gadael y sector cyfrwng Cymraeg oherwydd anghenion dysgu ychwanegol a ddim yn gallu parhau gyda’u sgiliau Cymraeg yn y dyfodol.”
'Brwydr enfawr'
Dywedodd bod 'na “frwydr enfawr” i deuluoedd ac athrawon i geisio sicrhau cefnogaeth ddigonol.
Mae hi’n croesawu’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud, ond bod angen gwneud mwy.
Fe wnaeth mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg gyfrannu i’r adroddiad.
“Y peth pwysicaf i ni yw cydnabyddiaeth bod angen edrych yn fwy ar rai meysydd penodol,” meddai’r cyfarwyddwr Elin Maher.
“Er enghraifft sut mae’r gweithlu yn y maes hwn yn cael ei ddatblygu fel nad ydyn ni’n colli staff a bod yna fylchau a hynny’n arwain at beidio gallu rhoi cefnogaeth. Felly mae angen edrych yn fwy systematig ar sut mae’r gweithlu ar gyfer dysgwyr gydag anghenion arbennig yn cael ei gynllunio.”
Fe wnaeth Llywodraeth Cymru fethu pasio ei chynlluniau gwariant ym mis Gorffennaf, gyda’r blaid Lafur eisiau gweld mwy o wario ar anghenion dysgu ychwanegol, sef £100m eleni.
'Heriau parhaus'
Dywedodd llefarydd addysg y blaid Lafur Lynne Neagle A.S. ei bod yn croesawu’r adroddiad: “Mae’n glir fodd bynnag bod 'na heriau parhaus i weithredu system anghenion dysgu ychwanegol sy’n ddwyieithog ac mae’n rhaid i’r llywodraeth Plaid Cymru fynd i’r afael â hynny.”
Dywedodd Llywodraeth Cymru y dylai dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnynt drwy gyfrwng y Gymraeg.
“Mae’r adolygiad cenedlaethol cyntaf hwn yn rhoi darlun pwysig o’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg yng Nghymru, gan dynnu sylw at feysydd cynnydd a meysydd lle mae angen rhagor o welliannau.
“Bydd canfyddiadau’r adolygiad hwn yn llywio camau gweithredu yn y dyfodol i gryfhau’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol cyfrwng Cymraeg a chefnogi’r gwaith o ddatblygu system ADY sy’n ddwyieithog ac yn gynaliadwy,” meddai'r llywodraeth.