Diswyddo plismones o Heddlu'r Gogledd am gamymddwyn difrifol mewn parti

PC Pamela Pritchard

Mae plismones gyda Heddlu'r Gogledd wedi ei diswyddo am gyffwrdd dau o'i chyd-weithwyr yn amhriodol mewn parti yng Nghlwb Rygbi Caernarfon y llynedd.

Clywodd gwrandawiad camymddwyn ym Mae Colwyn ddydd Iau fod Pamela Pritchard, 29 oed, wedi gwasgu bronnau ei chydweithiwr wrth iddi ddawnsio ar lawr dawnsio'r clwb rygbi tra oddi ar ddyletswydd.

Roedd PC Pritchard, sy’n chwarae rygbi, wedi gweithio yng ngharchar y Berwyn yn Wrecsam am ychydig fisoedd cyn ymuno â’r heddlu. 

Clywodd y gwrandawiad ei bod wedi’i "chywilyddio" gan ei hymddygiad ym mis Mawrth y llynedd a gwadodd unrhyw fwriad rhywiol.

Cafodd ei chyhuddo o fflyrtio a chyffwrdd swyddog heddlu ddwywaith a’i gusanu, yn ogystal â cheisio cusanu arolygydd.

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r Gogledd, Chris Allsop: "Mae’r ymddygiad ar lefel a allai gyfiawnhau diswyddo, felly mae ar lefel camymddwyn difrifol."

Fe wnaeth PC Pritchard wadu unrhyw gamymddwyn difrifol a chyswllt rhywiol bwriadol.

'Cosb ddifrifol'

Ar ôl i'r honiad o dorri safonau ymddygiad proffesiynol gael ei brofi, dywedodd y bargyfreithiwr Jonathan Landau ar ran Awdurdod Cwynion yr Heddlu fod y panel wedi darganfod bod ymosodiad ar y fenyw - oedd yn cael ei disgrifio fel PC A - "o natur rywiol".

Dywedodd Mr Landau fod ymgais hefyd gan PC Pritchard i feio eraill am ei hymddygiad.

"Does dim gwahaniaeth bod y swyddog (Pritchard) yn fenyw, dylai'r canlyniad fod yr un peth beth bynnag," meddai Mr Landau.

Gofynnodd Fiona Clancy, cyfreithiwr Pritchard, am rybudd ysgrifenedig terfynol yn hytrach na'r diswyddiad i'w chleient.

"Mae'r camymddwyn yn ddifrifol ond nid mor ddifrifol y byddai diswyddo yn unig yn ddigonol - does dim risg o ailadrodd," meddai Ms Clancy.

"Mae rhybudd ysgrifenedig terfynol yn gosb ddifrifol. Dim ond ar gyfer yr achos mwyaf difrifol y dylid cadw diswyddiad. 

"Mae diddordeb y cyhoedd mewn cadw swyddogion sydd gydag addewid."

Ychwanegodd Ms Clancy: "Mae hi'n derbyn bod ei hymddygiad y noson honno'n annerbyniol. 

"Mae hi wedi dysgu o'r profiad yma. Mae wedi cael effaith sylweddol ar ei hiechyd meddwl."

Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu'r Gogledd, Chris Allsop: "Mae niwed yn effeithio ar lesiant dioddefwyr, ac mae nifer ohonyn nhw. Mae Heddlu Gogledd Cymru yn rhoi dioddefwyr wrth wraidd eu darpariaeth gwasanaeth. 

"Mae risg wirioneddol o danseilio ymddiriedaeth a hyder yr holl ddioddefwyr yn yr achos yma, ac unrhyw ddioddefwr posibl, yng ngwasanaeth yr heddlu os na chaiff y materion yma eu trin yn briodol."

Ychwanegodd fod 'na graffu cenedlaethol ar ymddygiad plismona.

"Mae’r heddlu mewn sefyllfa freintiedig o ymddiriedaeth ac mae’r cyhoedd yn disgwyl iddynt arfer eu swydd yn briodol ac yn broffesiynol. Nid ydym yn ystyried bod rhybudd ysgrifenedig terfynol yn ddigonol," meddai.

"Mae’r panel yn cydnabod y gall pawb, gan gynnwys swyddogion heddlu, wneud camgymeriadau. Fodd bynnag, mae pwynt lle mae ymddygiad mor ddifrifol â’r ymddygiad yn yr achos yma fel mai dim ond y sancsiwn eithaf sydd ar gael."

Fe wnaeth y panel argymell hefyd y dylid ei hychwanegu at restr waharddedig yr heddlu.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.