Eurovision: Gwledydd yn tynnu nôl dros bresenoldeb Israel
Eurovision: Gwledydd yn tynnu nôl dros bresenoldeb Israel
O fewn yr oriau diwethaf mae Iwerddon, Yr Iseldiroedd a Sbaen ymhlith y gwledydd i dynnu'n ôl o gystadleuaeth Eurovision.
Roedden nhw wedi bygwth boicot oni bai bod Israel yn cael eu gwahardd dros y rhyfel yn Gaza.
Ond wedi cyfarfod o'r aelodau ddydd Iau bydd Israel yn cael cystadlu flwyddyn nesaf.
Fe wnaeth trefnwyr Eurovision gynnal y cyfarfod ddydd Iau yn Geneva, y Swistir i drafod os ddylai Israel barhau i gystadlu wedi protestiadau dros y rhyfel yn Gaza a chyhuddiadau o bleidleisio annheg.
Roedd yr Almaen wedi awgrymu y byddan nhw'n tynnu allan os na fydd Israel yn cael cystadlu.
Roedd pleidlais i benderfynu dyfodol Israel yn y gystadleuaeth wedi ei drefnu ar gyfer mis Tachwedd, ond cafodd ei ohirio wedi cadoediad rhwng Israel a Hamas ar 10 Hydref.
Fe ddaeth y bleidlais newydd ddydd Iau wedi i brotestwyr gwrth-Israel geisio amharu ar Eurovision yn 2024 a 2025.
Yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn y Swistir eleni roedd dau berson wedi ceisio neidio ar y llwyfan a thaflu paent dros gystadleuydd Israel, Yuval Raphael.
Fe ddaeth Raphael yn ail yn y gystadleuaeth, gyda gwledydd eraill yn cyhuddo llywodraeth Israel o roi hwb i'w ymgyrch yn y gystadleuaeth trwy dalu am hysbysebu ar draws Ewrop yn annog pobl i bleidleisio dros Israel.
Dyw'r wlad heb ymateb i'r honiadau hynny ond yn dadlau bod ymgyrch yn eu herbyn i ddinistrio eu henw da.
Fis diwethaf roedd trefnwyr Eurovision wedi dweud eu bod yn tynhau rheolau pleidleisio fel nad oes modd i lywodraethau ddylanwadu ar y canlyniad.
Heb enwi Israel, dywedodd yr Undeb Darlledu Ewropeaidd (EBU) y byddai’n nhw "ddim yn annog ymgyrchoedd hyrwyddo", yn enwedig pe baen nhw'n cael eu "ymgymryd neu eu cefnogi gan drydydd parti, gan gynnwys llywodraethau neu asiantaethau llywodraethol".
Hefyd dywedodd yr EBU y byddai cefnogwyr ond yn gallu pleidleisio 10 gwaith, yn lle 20.
"Rydym yn mawr obeithio y bydd y pecyn o fesurau yn sicrhau aelodau ein bod wedi cymryd camau cryf i amddiffyn niwtraliaeth y gystadleuaeth," meddai'r EBU.