‘Bwndeli babi’ yn cael eu dosbarthu i helpu teuluoedd yng Nghymru
Fe fydd ‘bwndeli babi’ yn cael eu dosbarthu am y tro cyntaf yng Nghymru ddydd llun.
Mae’r bwndeli, sy’n cynnwys eitemau hanfodol, yn cael eu dosbarthu i deuluoedd sy'n disgwyl babi yn ardaloedd Dechrau'n Deg Cymru sef cynllun i gefnogi teuluoedd mewn ardaloedd difreintiedig.
Mae'r cynllun ‘bwndeli babi’ yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Mae'r eitemau yn y bwndeli yn cynnwys dillad 0-6 misoed, blancedi, bibs, llieiniau mwslin, thermomedr, llyfr dwyieithog a mat chwarae.
Mae'r pecynnau hefyd yn cynnwys gwybodaeth a chyngor defnyddiol ynghylch rhaglenni cymorth a magu plant.
Mollie Young, darpar fam o Gasnewydd, fydd ymysg y cyntaf i dderbyn bwndel
Dywedodd Ms Young: "Cefais fy synnu pan ddywedodd fy mydwraig wrthyf y gallwn gael parsel gyda dillad babi ac eitemau eraill cyn i'r babi gyrraedd. Mae'n syniad gwych ac yn help ymarferol go iawn."
Dywedodd Dawn Bowden, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol:
"Mae bwndeli babi yn gymorth gwirioneddol ac ystyrlon i deuluoedd ar adeg bwysig - ond drud yn aml - yn eu bywydau.
"Dewiswyd y cynnwys ar sail yr hyn a ddywedodd rhieni wrthym yn ystod y cynllun peilot.
"Rwy'n hynod falch bod y gwaith sydd wedi mynd i gynhyrchu, pacio a gwireddu'r bwndeli hefyd yn cefnogi swyddi a busnesau yma yng Nghymru."
Cymorth i deuluoedd
Mae teuluoedd cymwys yn cofrestru ar gyfer bwndel drwy eu bydwraig a chaiff y bwndeli eu danfon rhwng 32 a 34 wythnos o feichiogrwydd.
Gall bydwragedd hefyd gofrestru nifer cyfyngedig o deuluoedd sy’n byw y tu allan i ardaloedd Dechrau’n Deg os oes angen cymorth arbennig arnynt.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Yn ogystal â chefnogi teuluoedd mewn cymunedau Dechrau'n Deg, mae'r rhaglen yn helpu i greu a chynnal swyddi a phrentisiaethau drwy ddefnyddio cyflenwyr a mentrau cymdeithasol yng Nghymru i gynhyrchu a hel ynghyd y pecynnau a’u cynnwys.”
Mae bibs, hetiau, tywelion babanod a phadiau bwydo y gellir eu hailddefnyddio yn cael eu cynhyrchu gan Elite Clothing, menter gymdeithasol yng Nglynebwy, a'r pecynnau yn cael eu dodi at ei gilydd gan Sefydliad y Deillion ym Merthyr Tudful.