Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi colli 'traean o'i gyfarwyddwyr gweithredol'

Newyddion S4C
S4C
Mae bwrdd iechyd y gogledd wedi colli traean o'i gyfarwyddwyr gweithredol yn ôl cofnodion y cyfarfod bwrdd nesaf.
 
Yn ôl adroddiad i aelodau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae problemau hefyd o ran gofal iechyd, gyda "diogelwch cleifion yn parhau yn her". 
 
Cofnodwyd 13 o ddigwyddiadau difrifol y dylid bod wedi eu hosgoi gan y bwrdd dros gyfnod o flwyddyn.
 
Daw'r newyddion fel ergyd arall i fwrdd iechyd y gogledd wedi iddyn nhw dderbyn "rhybudd olaf" i wella gan y gweinidog iechyd ddiwedd mis Mehefin.
 
Yn ôl bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, mae "trefniadau yn eu lle i sicrhau parhad o ran arweinyddiaeth" a bod eu "ffocws yn parhau'n gadarn ar ddarparu gofal effeithiol a thosturiol, gwella perfformiad a chefnogi ein blaenoriaethau gwelliant i gleifion a chymunedau ar hyd a lled Gogledd Cymru."
 
Wedi rhybudd y gweinidog iechyd, Mabon ap Gwynfor, ym mis Mehefin, mae panel annibynnol o arbenigwyr yn adolygu diogelwch cleifion, arweinyddiaeth a diwylliant o fewn i'r bwrdd iechyd, sydd dan fesurau arbennig ers Chwefror 2023. Mae disgwyl iddyn nhw adrodd yn ôl i'r llywodraeth erbyn diwedd mis nesaf.
 
Mewn cofnodion sydd wedi eu cyhoeddi cyn i aelodau bwrdd Betsi Cadwaladr gwrdd ddydd Iau, mae cadarnhad bod y cyfarwyddwr nyrsio a bydwreigiaeth yn ymddeol. 
 
Mae'r prif swyddog gweithrediadau, a benodwyd ym mis Mawrth y llynedd "wedi gadael yn ddiweddar" tra bod y cyfarwyddwr ariannol a'r cyfarwyddwr amgylchedd ac ystadau hefyd wedi "sicrhau rolau newydd i'w hunain y tu allan i'r bwrdd iechyd."
 
'Problemau dwfn'
 
Wrth gael ei holi am ymadawiad traean o gyfarwyddwyr y bwrdd tra bod adolygiad annibynnol o'i lywodraethiant yn parhau, dywedodd y gweinidog iechyd Mabon ap Gwynfor wrth raglen Sunday Supplement BBC Radio Wales bod hynny yn "amlygu y problemau o fewn i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr - problemau dwfn sydd wedi ymwreiddio yno ers amser. Mae'n rhaid i ni weld gwelliant cyn hir."
 
Ychwanegodd ei fod yn disgwyl gwelliannau "erbyn diwedd mis Medi" ac y byddai adroddiad yr adolygiad annibynnol ddiwedd mis nesaf yn helpu wrth benderfynu "beth sydd ei angen o ran camau nesaf".
 
Image
Mabon
Y gweinidog iechyd Mabon ap Gwynfor
Yn y ddogfennaeth ar gyfer cyfarfod y bwrdd yr wythnos yma, mae'r Prif Weithredwr, Carol Shillabeer, yn dweud wrth aelodau bod "cynlluniau cadarn yn eu lle er mwyn cynnal atebolrwydd clir, gwytnwch sefydliadol a goruchwyliaeth gweithredol drwy'r cyfnod hwn o newid."
 
Yn ôl crynodeb un adroddiad "mae'r bwrdd iechyd yn parhau i wynebu pwysau sylweddol o ran ansawdd a diogelwch dros nifer o feysydd risg uchel."
 
Mae'r meysydd rheiny yn cynnwys 13 digwyddiad sydd yn cael eu galw yn "ddigwyddiadau byth/never event" - digwyddiadau difrifol mae modd eu hosgoi sydd naill ai yn gallu neu yn achosi niwed i gleifion neu yn peryglu eu diogelwch.
 
'Angen cryfhau cydymffurfiaeth'
 
Betsi Cadwaladr sydd â'r gyfradd uchaf o achosion o'r math hwn yng Nghymru fesul 100,000 o'r boblogaeth.
 
Ymysg yr achosion sydd yn cael eu nodi mae pum achos o wrthrych dieithr yn parhau mewn corff wedi gweithrediad meddygol, pedwar achos o "syrjeri yn y man anghywir" a dau achos o  "fewnblaniad neu brosthetig anghywir".
 
Mae'r dogfennau yn nodi bod y digwyddiadau "yn parhau yn brin o'u cymharu â chyfanswm y gweithrediadau, ond mae eu natur fel digwyddiadau allai gael eu hosgoi yn golygu bod angen cryfhau cydymffurfiaeth, sicrwydd a dysgu gweithdrefnol."
 
Mae'r crynodeb gweithdrefnol ar gyfer ansawdd, diogelwch a phrofiad cleifion yn nodi: "Mae ffocws yn parhau ar wella diogelwch gweithdrefnol a gweithredu safonau diogelwch yn gyson. Mae ymchwiliadau a dysgu o ddigwyddiadau yn parhau ynghyd â goruchwyliaeth gweithdrefnol sydd wedi ei gryfhau a rhaglen ar draws y bwrdd iechyd sydd yn cydgyfnerthu Safonau Diogelwch Lleol ar gyfer Gweithdrefnau Ymwthiol, cryfhau trefniadau archwilio a rhoi gwell sicrwydd ar draws gweithrediadau ymwthiol (invasive)."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.