‘Bron i 3,000’ wedi’u lladd neu eu hanafu’n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau gyrwyr ifanc yng Nghymru

Dysgwr gyrru

Cafodd bron i 3,000 o bobl eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau yn ymwneud â gyrrwr rhwng 17 a 24 oed yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae ffigyrau gan yr Adran Drafnidiaeth rhwng 2021 a 2025 yn dangos fod 2,829 o bobl wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol mewn gwrthdrawiadau â gyrrwr ifanc yng Nghymru rhwng 2021 a 2025.

Mae'r data hefyd yn datgan fod 566 o bobl ar gyfartaledd wedi cael eu lladd neu eu hanafu yn ddifrifol mewn gwrthdrawiad â gyrrwr ifanc bob blwyddyn yn y cyfnod yma yng Nghymru.

Mae Cyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu yn dweud bod penwythnosau a nosweithiau yn gyfnodau risg uchel, gyda mwy o ddamweiniau gyrwyr ifanc sy'n arwain at rywun yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn digwydd ar ddydd Sadwrn.

Fe rybuddiodd y cyngor hefyd fod ffyrdd gwledig yn fwy peryglus na rhai trefol.

Mae'r heddlu yn annog rhieni i barhau i oruchwylio eu plant yn gyrru yn y misoedd ar ôl iddynt basio eu prawf, fel rhan o gynllun cenedlaethol ehangach o'r enw Ymgyrch Spotlight.

Mae'r ymgyrch yn cyd-fynd â'r cyfnod pan y mae pobl ifanc yn dychwelyd i'r ysgol a'r brifysgol a thywydd mwy gaeafol.

Mae trwyddedau gyrru newydd yn cael eu cyflwyno i yrwyr newydd yng Ngogledd Iwerddon fis nesaf, gan gynnwys cyfnod aros o chwe mis rhwng cael trwydded dros dro a gwneud prawf ymarferol, cyfyngiadau ar gludo teithwyr yn ystod y nos, a dangos plât 'R' am ddwy flynedd.

Mae cynlluniau tebyg yn Awstralia, Canada, Norwy, Sweden, y Ffindir a rhannau o'r Unol Daleithiau wedi lleihau nifer y gwrthdrawiadau sy'n ymwneud â gyrwyr ifanc o rhwng pump a 40%, yn dibynnu ar y rheolau sydd ar waith.

Dywedodd y Prif Uwch-arolygydd Marc Clothier, Dirprwy Gydlynydd Cenedlaethol yn y Ganolfan Gydlynu Genedlaethol Plismona’r Ffyrdd: "Mae gyrwyr ifanc yn cael eu cynrychioli’n anghymesur mewn gwrthdrawiadau difrifol ac angheuol, er eu bod yn gyrru llawer llai o filltiroedd na’r gyrrwr cyffredin.

“Mae diffyg profiad ac anallu i asesu risg yn ddau o’r ffactorau sy’n cael yr effaith fwyaf ar ddiogelwch gyrwyr ifanc ar y ffyrdd, ac mae gan bob penderfyniad sy'n cael ei wneud wrth yrru cerbyd effaith, felly dyma lle gall rhieni a chyfoedion fod yn ddylanwadol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.