Môn: Cyhuddo dau mewn cysylltiad â throseddau cyflenwi cyffuriau

Mon cyffuriau

Mae dau o bobl wedi cael eu cyhuddo mewn cysylltiad â throseddau yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau yn ardaloedd Ynys Môn a Bangor. 

Dywedodd Heddlu'r Gogledd fod pedwar o bobl wedi eu harestio, a fod swm sylweddol o gyffuriau ac arian wedi eu darganfod yn dilyn diwrnod o waith wedi'i dargedu ar yr ynys. 

Fe wnaeth swyddogion gynnal ymgyrch chwilio mewn wyth eiddo a thri cherbyd yn ardaloedd Porthaethwy, Bae Cemaes a Bangor ddydd Llun.

O ganlyniad, cafodd pedwar eu harestio mewn cysylltiad â throseddau cyflenwi cyffuriau. 

Mae dau bellach wedi eu cyhuddo. 

Cafodd Aaron Colin Owen, 32 oed,  o Fron Heulog ym Mhorthaethwy ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis,  bod yn ymwneud â chyflenwi MDMA a 2C-B, a bod â chanabis yn ei feddiant gyda'r bwriad o gyflenwi.

Cafodd Jordan Lee Jones, 29 oed o Fangor ei gyhuddo o gynllwynio i gyflenwi cocên a chanabis.

Fe ymddangosodd y ddau yn Llys Ynadon Caernarfon ddydd Mawrth. 

Mae'r ddau yn parhau yn y ddalfa tan eu gwrandawiad nesaf yn Llys y Goron Caernarfon ar 19 Hydref. 

Mae'r ddau unigolyn arall a gafodd ei arestio wedi eu rhyddhau o dan ymchwiliad wrth i ymholiadau'r heddlu barhau. 

Dywedodd Prif Arolygydd Ynys Môn, Jon Aspinall: "Rydym yn parhau wedi ein hymrwymo i sicrhau fod Ynys Môn yn parhau i fod yn amgylchedd anodd i droseddwyr weithredu ynddo. 

"Mae ein neges iddyn nhw yn glir - bydd unrhyw un sy'n dod â chyffuriau anghyfreithlon i'r ynys yn cael eu dwyn i gyfrif."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.