Gwerth dros £100,000 o bersawr wedi'i ddwyn yng Nghaerdydd

Ystad ddiwydiannol Wentloog

Mae gwerth dros £100,000 o bersawr wedi cael ei ddwyn o stad ddiwydiannol yng Nghaerdydd.

Fe wnaeth lladron dorri i mewn i uned yn Ystâd Ddiwydiannol Wentloog yn Rhymni a dwyn bocsys o bersawr drud, gan gynnwys poteli o bersawr Acqua di Parma a ‘Daisy’ gan Marc Jacobs.

Dywedodd Heddlu De Cymru fod y lladrad wedi digwydd rhwng 21.00 ddydd Gwener 21 Awst a 03.00 ddydd Sadwrn 22 Awst.

Mae ymholiadau eisoes wedi cael eu cynnal ac mae swyddogion bellach yn apelio am wybodaeth gan y cyhoedd.

Y gred yw bod y rhai dan amheuaeth wedi parcio cerbyd ar Wentloog Avenue er mwyn cael mynediad i’r safle.

Mae’r llu’n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2600275426.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.