Teyrngedau i Tony Jones o ddeuawd boblogaidd Tony ac Aloma sydd wedi marw yn 86 oed
Teyrngedau i Tony Jones o ddeuawd boblogaidd Tony ac Aloma sydd wedi marw yn 86 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i Tony Jones, un rhan o un o ddeuawdau enwocaf Cymru, Tony ac Aloma, sydd wedi marw yn 86 oed.
Yn wreiddiol o Rosmeirch, Ynys Môn, roedd Tony Jones wedi perfformio ledled Cymru a thu hwnt am dros 60 o flynyddoedd, gan serennu mewn sioeau cabaret, rhaglenni teledu a chyngherddau.
Cynyddodd poblogrwydd Tony ac Aloma yn y 1960au a’r 70au pan wnaethon nhw hudo cynulleidfaoedd Cymru, gyda chaneuon clasurol fel Mae Gen i Gariad a Dim Ond Ti a Fi, a gwerthu dros 100,000 o albymau.
Mewn neges a gyhoeddwyd drwy aelod o'i theulu, dywedodd Aloma Jones ei bod yn "diolch i chi gyd am eich cydymdeimlad ag eich geiriau caredig, hebdda chi gyd fysa 'na ddim Tony ac Aloma".
Mae'r ddeuawd gerddorol Iona ac Andrew Boggie, Iona ac Andy, ymysg yr rheini sydd wedi talu teyrnged i'w cyfaill Tony Jones. Roedden nhw ymysg yr rheini oedd wedi canu yn eu gwesty yn Blackpool.
"Rydym heddiw 'Wedi colli rhywun sy'n annwyl'," medden nhw. "Cyfansoddwr caneuon gwych, llais bendigedig a person annwyl iawn.
"Hebddo fo ni faswn yn chwarae gitar a chanu - dysgais eu caneuon bron i gyd!
"Fe es i bob cyngerdd yn y 60au ac yn fwy diweddar fe wnaethom ni Iona ac Andy ganu yn eu gwesty yn Blackpool.
"Bydd colled mawr ar ei ôl a ni fydd yna neb yr un fath a Tony ac Aloma. Cydymdeimlwn a'i deulu."
Roedd y canwr o Bwllheli Dylan Morris ymysg yr rheini a wnaeth berfformio mewn pennod arbennig o gyfres adloniant S4C, Noson Lawen, yn 2023 i ddathlu 60 mlynedd y ddeuawd boblogaidd ym myd adloniant Cymru.
Dywedodd y canwr, a berfformiodd gan Tony ac Aloma ''Aros y Nos' ' ar y rhaglen, fod Cymru "wedi colli rhywun sy'n annwyl ym mhob ystyr y frawddeg".
"Yn meddwl am ei deulu, Aloma a'i holl ffrindiau heddiw. Diolch am y gerddoriaeth Tony."
Wrth roi teyrnged i Tony Jones, dywedodd cwmni recordiau Sain a gyhoeddodd ei gerddoriaeth ei fod yn "gyfaill i Sain ers degawdau" ac yn "un o'r deuawdau mwyaf poblogaidd a fuodd erioed".
"Diolch, Tony, am dy gyfraniad gloyw ac arloesol i ganu ysgafn Cymru. Meddyliwn am ei deulu a'i gyfeillion."
Dywedodd Aelod Senedd Cymru Ynys Môn, Rhun ap Iorwerth ei fod yn "drist" clywed am farwolaeth Tony Jones.
"Fel artist unigol, ond yn arbennig fel rhan o’r ddeuawd ddihafal ‘Tony ac Aloma’ fe wnaeth y canwr o Fôn ddod a phleser mawr dros y blynyddoedd i gynulleidfaoedd ar draws Gymru a thu hwnt," meddai.
"Cwsg mewn hedd."
Hanes Tony ac Aloma
Yn wreiddiol o Rosmeirch, Ynys Môn, roedd Tony Jones wedi dychwelyd i'r fam ynys i ymddeol, ar ôl degawdau yn cadw gwesty'r Gresham yn Blackpool ynghŷd a'i gyfaill oes, Aloma a'i diweddar ŵr, Roy.
Roedd Tony ac Aloma yn perfformio’n rheolaidd mewn nosweithiau llawen ac eisteddfodau lleol ar Ynys Môn yng nghanol y 1960au cyn iddynt ffurfio'r ddeuawd.
Yn 1964 roedd Tony wedi cael cais i drefnu noson lawen yn Llanfair-yng-Nghornwy, ac fe wahoddwyd Aloma a'i ffrind, Christine Lee i berfformio yn y noson lawen.
Wedi hynny bu Aloma a Christine yn aml yn canu lleisiau cefndir pan oedd Tony yn canu.
Wedi perfformio mewn noson lawen dan arweiniad Charles Williams awgrymodd mab Charles, Idris Charles bod Tony, Aloma, Christine ac ef yn ffurfio parti noson lawen.
Roedd parti Idris Charles yn cynnig set noson lawen gyflawn gydag Idris yn dweud jocs, Christine ac Aloma yn canu deuawdau a Tony yn unawdydd.
Roedd Mam Christine yn poeni bod dyletswyddau'r parti yn effeithio ar ei gwaith ysgol ac ymadawodd a'r parti.
Wedi i Christine ymadael dechreuodd Aloma ganu deuawdau gyda Tony yn nosweithiau'r Parti, ac mae'r gweddill yn hanes.
Hyd yn oed ar ôl symud i'r Gresham, fe fyddai Tony ac Aloma yn arfer perfformio i gannoedd o ymwelwyr oedd yn teithio i aros yn y gwesty bob blwyddyn.
Llun gan Raymond Daniel