Yr Arglwydd Mandelson yn gadael Llafur oherwydd ei gysylltiad gyda’r pedoffeil Jeffrey Epstein
Mae'r Arglwydd Peter Mandelson wedi gadael y blaid Lafur er mwyn osgoi achosi 'mwy o gywilydd' i'r blaid yn dilyn datguddiadau pellach am ei gyfeillgarwch gyda’r pedoffeil Jeffrey Epstein.
Cafodd y gwleidydd y sac fel llysgennad Prydain yn yr UDA'r llynedd oherwydd ei gysylltiadau gydag Epstein.
Roedd Mandelson yn ymddangos yn y ffeiliau diweddar gafodd eu rhyddhau gan adran Gyfiawnder America.
Mae dogfennau yn awgrymu bod Epstein wedi talu $75,000 (£55,000) i'r Arglwydd Mandelson rhwng 2003 a 2004.
Nos Sul dywedodd Mandelson ei fod wedi ysgrifennu at ysgrifennydd cyffredinol y blaid Lafur i ddweud ei fod yn rhoi'r gorau i fod yn aelod o'r blaid.
"Rwyf wedi fy nghysylltu eto'r penwythnos yma i'r dicter dealladwy ynglŷn â Jeffrey Epstein a dwi'n teimlo yn sori ac yn edifar am hynny. Mae angen i mi ymchwilio i honiadau yr wyf yn credu sydd yn ffug ei fod wedi gwneud taliadau ariannol i mi 20 mlynedd yn ôl. Does gennyf i ddim unrhyw gofnod na chof ohonynt.
Wrth wneud hyn nid wyf am achosi mwy o gywilydd i’r Blaid Lafur ac felly rwy’n camu i lawr fel aelod o’r blaid," meddai yn ei lythyr.
Ychwanegodd:"Fe hoffwn i gymryd y cyfle i ymddiheuro eto i'r menywod a merched a ddioddefodd o dan law Epstein. Dylai eu lleisiau fod wedi eu clywed ymhell cyn hyn.
“Rwyf wedi rhoi fy mywyd i werthoedd a llwyddiannau'r blaid Lafur ac wrth wneud fy mhenderfyniad rwyf yn credu fy mod yn gweithredu er lles y blaid."
Ddydd Sul fe ddywedodd yr Arglwydd Mandelson nad oedd yn gwybod os oedd y dogfennau sydd newydd gael eu rhyddhau yn rhai go iawn ac nad oedd yn cofio cael taliadau ariannol gan Epstein.
Mae'r AS Llafur Gordon McKee wedi dweud y bydd dioddefwyr Epstein gyda rheswm da yn "gynddeiriog" am yr honiadau diweddaraf. Dywedodd wrth Radio 4 bod Mandelson wedi gwneud y peth iawn trwy ildio ei aelodaeth i'r blaid Lafur.
Galw am "ymchwiliad annibynnol llawn a thrylwyr" mae'r Ceidwadwyr i benodiad yr Arglwydd Mandelson fel llysgennad yr UDA.
Llun: Jonathan Brady/PA