Angen i bobl ifanc ‘gael dweud eu dweud’ ar wahardd cyfryngau cymdeithasol

Dylan / cyfryngau cymdeithasol

Mae bachgen 16 oed sy'n rhan o ymchwil am effaith gwahardd y cyfryngau cymdeithasol i blant yn dweud byddai ei genhedlaeth yn fwy parod i dderbyn newidiadau os bydden nhw'n gweld pobl ifanc eraill yn cyfrannu at benderfyniadau mawr.

Mae Dylan, sy'n aelod o banel cynghori pobl ifanc sy'n cydweithio ag academyddion ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dweud ei bod hi'n hanfodol bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed.

Daw ei sylwadau wrth i ymchwilwyr o'r brifddinas a Phrifysgol Bryste baratoi i astudio effaith cynllun Llywodraeth y DU i wahardd plant dan 16 oed rhag defnyddio cyfryngau cymdeithasol ar eu hiechyd meddwl a'u lles.

Fe fydd Dylan a'i grŵp yn cyfrannu at yr ymchwil hwnnw.

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Dylan y gallai pobl ifanc fod yn fwy parod i dderbyn penderfyniadau pe baen nhw'n gwybod bod pobl o'u hoedran nhw wedi helpu i'w llunio.

"Os ydyn nhw'n gallu gweld rhywun sy'n agosach at eu hoedran nhw yn dweud efallai nad cyfryngau cymdeithasol yw'r peth gorau, ac y byddai cael gwared arnyn nhw o fudd iddyn nhw, yna maen nhw'n fwy tebygol o gytuno oherwydd y gwahaniaeth oedran," meddai.

"Mae bron pob penderfyniad a deddf yn cael eu gwneud gan wleidyddion a phobl hŷn.

"Felly, gallai cael rhywun iau yn siarad am hyn, ac yn cyfrannu eu barn at yr hyn sy'n digwydd, wneud pobl ifanc yn fwy parod i ymddiried yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud."

Image
Dylan
Mae'r pwnc hwn yn golygu llawer i Dylan.

'Mae llais pobl ifanc yn bwysig'

Mae Dylan yn aelod o ALPHA, grŵp o tua 10 o bobl ifanc sy'n cyfarfod bob ychydig fisoedd i drafod ymchwil a pholisïau iechyd cyhoeddus.

Mae'r grŵp yn gweithio gydag ymchwilwyr DECIPHer ym Mhrifysgol Caerdydd, gan gynnig safbwyntiau pobl ifanc ar astudiaethau a allai ddylanwadu ar bolisïau iechyd.

Dywedodd Dylan ei bod hi'n hanfodol bod pobl ifanc yn cael cyfle i gyfrannu at ymchwil sy'n effeithio arnyn nhw.

"Os nad yw pobl ifanc yn cael dweud eu dweud am yr hyn sy'n digwydd ym maes ymchwil iechyd, yna bydd pethau'n digwydd nad ydyn ni wedi cytuno iddyn nhw, a doedden ni ddim eisiau iddyn nhw ddigwydd.

"Felly rwy'n credu mai rhoi llais i bobl ifanc yw'r peth pwysicaf."

Cynllun cyntaf o'i fath

Astudiaeth Prifysgolion Caerdydd a Bryste fydd y gyntaf i ganolbwyntio ar Gymru wrth archwilio sut y gallai cyfyngiadau ar gyfryngau cymdeithasol effeithio ar iechyd meddwl pobl ifanc.

Mae'r prosiect yn rhan o raglen ymchwil ehangach ledled y DU, sy'n cynnwys 10 tîm ac yn cael ei hariannu gan yr elusen ymchwil iechyd Wellcome.

Bydd ymchwilwyr yn astudio iechyd meddwl a lles pobl ifanc cyn ac ar ôl cyflwyno'r cyfyngiadau, drwy arolygon, cyfweliadau a thrafodaethau grŵp.

Yng Nghymru, bydd dau banel cynghori pobl ifanc yn cyfrannu at yr astudiaeth yng Nghymru.

Dywedodd Dylan ei fod yn teimlo'n hapus iawn pan glywodd fod cyllid wedi'i sicrhau ar gyfer y prosiect ymchwil.

"Roedd yn deimlad gwych, a dweud y gwir, oherwydd mae gwybod bod gennych chi lais yn y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn gyhoeddus yn wych.

"Rwy'n credu mai ein nod ni yw cyflawni'r hyn y byddai pobl ifanc ei eisiau.

"O ran y gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol, os gallwn ni gael rhywbeth sydd orau i bawb, efallai nid yr hyn maen nhw ei eisiau, wrth gwrs, ond rhywbeth fydd o fudd iddyn nhw yn y tymor hir, dyna'r nod yn y pen draw."

Image
Cyfryngau cymdeithasol
Mae Prifysgol Caerdydd yn dweud bod mai'r astudiaeth hon yw'r astudiaeth wyddonol fwyaf o'i bath yn y byd.

Ym mis Mehefin 2026, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bwriad i wahardd plant dan 16 oed o apiau cyfryngau cymdeithasol.

Mae'r cynlluniau'n cynnwys platfformau fel Instagram, TikTok, Snapchat, Facebook, YouTube ac X, er nad yw'r rhestr derfynol o wasanaethau fydd yn dod o dan y gwaharddiad wedi'i chadarnhau eto.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn dilyn ymgynghoriad cenedlaethol rhwng mis Mawrth a mis Mai, a ddenodd dros 116,000 o ymatebion.

Yn ôl y llywodraeth, roedd naw o bob 10 rhiant a ymatebodd o blaid gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed.

Mae'r llywodraeth yn bwriadu cyflwyno'r rheoliadau cyntaf gerbron Senedd San Steffan cyn diwedd 2026, gyda'r nod o roi'r gwaharddiad ar waith yn y gwanwyn yn 2027.

Felly, er bod y llywodraeth wedi cyhoeddi ei bwriad i gyflwyno'r gwaharddiad, nid yw'r rheoliadau terfynol wedi'u cyflwyno na dod i rym eto.

Bydd angen i gwmnïau gyflwyno gwiriadau oedran llymach, ond nid yw'r holl fanylion ynghylch sut y bydd y gwaharddiad yn cael ei orfodi wedi'u cadarnhau.

Nid yw'r llywodraeth yn bwriadu cynnwys gwasanaethau negeseuon fel WhatsApp a Signal yn y gwaharddiad.

Mae mesurau ychwanegol hefyd wedi'u cynnig ar gyfer pobl ifanc 16 ac 17 oed, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad at gyfryngau cymdeithasol rhwng hanner nos a 06:00 yn ddiofyn.

Fydd Dylan yn hapus gyda gwaharddiad?

Er bod Dylan yn gweld manteision posibl i'r gwaharddiad, mae e dal yn credu bod effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc yn fwy cymhleth.

"Byddwn i'n dweud bod yr effaith yn eithaf niwtral, a dweud y gwir, oherwydd er eu bod nhw'n cymryd llawer o amser, dydw i ddim yn credu eu bod nhw'n gwneud pobl yn anhapus," meddai.

Esboniodd fod cyfryngau cymdeithasol hefyd yn galluogi pobl ifanc i gysylltu ag eraill sydd â diddordebau tebyg, trefnu gweithgareddau a darganfod pethau newydd i'w gwneud.

Ond cyfaddefodd fod treulio gormod o amser yn sgrolio yn gallu effeithio ar waith ysgol, hobïau a chwsg.

"Mae'n annog pobl i ohirio gwneud pethau oherwydd ei fod yno drwy'r amser. Mae wastad yn rhywbeth y gallwch chi ei wneud.

"Mae'n bendant yn effeithio ar waith ysgol, gweithgareddau allgyrsiol a hobïau. Mae'n cymryd amser oddi wrth bethau eraill y gallech chi fod yn eu gwneud."

Ychwanegodd Dylan ei fod wedi dechrau newid ei arferion ei hun yn ddiweddar, gan gynnwys cadw ei ffôn ymhellach oddi wrth ei wely ac osgoi sgrolio cyn mynd i gysgu.

"Mae fy nghwsg wedi gwella. Rwy'n teimlo bod gen i fwy o egni yn ystod y dydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.