Daniel Evans yn ennill y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod CFfI Cymru 2026

Daniel Evans

Mae Daniel Evans o CFfI Pontsiân wedi ennill y Gadair a'r Goron yn Eisteddfod CFfI Cymru 2026.

Cafodd ei gyhoeddi'n enillydd y ddwy brif wobr lenyddol yn ystod seremoni ym Mhafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid, nos Sadwrn.

Mae Daniel yn dod o Horeb ger Llandysul, ac fe gafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Aberbanc ac yna yn Ysgol Bro Teifi.

Mae'n gweithio ym Meddygfa San Pedr yn Llandysul, ac mae wedi bod yn aelod brwd o'r mudiad ers naw mlynedd.

Ef yw ysgrifennydd CFfI Pontsiân eleni.

Ceredigion sydd wedi cynnal yr Eisteddfod eleni, gyda'r Gadair yn cael ei chyflwyno am y gerdd orau ar y thema 'Bwlch' neu 'Bylchau', a'r Goron am y darn gorau o ryddiaith.

Y Prifardd Gwenallt Llwyd Ifan oedd beirniad cystadleuaeth y Gadair, a Luned Mair oedd yn beirniadu cystadleuaeth y Goron.

Yr efeilliaid Bleddyn ac Owain Thomas, sy'n aelodau o Glwb Ffermwyr Ifanc Felinfach, sydd wedi creu'r Gadair, tra bod Dylan ac Elen Bowen wedi creu'r Goron.

Rhagor i ddilyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.