Gwrthwynebiad lleol i ganolfan ddata yn y de
Mae trigolion Margam yn galw ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot i ailystyried ei benderfyniad i ganiatáu canolfan ddata newydd, gan ddweud na chafodd llawer ohonyn nhw wybod am y cynllun tan ar ôl iddo gael ei gymeradwyo.
Fe ddaeth tua 40 o drigolion at ei gilydd mewn cyfarfod yn y pentref y mis hwn i drafod y datblygiad 12 MW.
Mewn ymateb, dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot ei fod wedi dilyn y gweithdrefnau ymgynghori statudol, ac nad oedd gwallau yn y dogfennau cynllunio wedi effeithio ar y penderfyniad.
Fe gafodd y cais ei gymeradwyo ar 26 Mai 2026 ar gyfer safle Tyn-y-Caeau, i'r gorllewin o'r A48 ger cyffordd 38 traffordd yr M4.
Mae'r cynllun yn cynnwys canolfan ddata, is-orsaf drydan a chysylltiad tanddaearol â gwaith biomas cyfagos, yn ogystal â mannau parcio a seilwaith arall.
Dywedodd Julie Mills, sy'n byw yn lleol, nad oedd llawer o drigolion yn ymwybodol o'r cynlluniau oherwydd diffyg ymgynghori â'r cyhoedd.
Mae hi hefyd wedi codi pryderon am wallau honedig yn y dogfennau cynllunio, gan gynnwys yr asesiad sŵn ac arolwg ystlumod.
Dywedodd: "Mae preswylwyr yn pryderu nid yn unig am y ganolfan ddata 12 MW ei hun, ond hefyd am y broses a arweiniodd at ei chymeradwyo."
Mae trigolion hefyd wedi codi cwestiynau am berygl llifogydd, effaith bosibl y datblygiad ar fywyd gwyllt, a sŵn o'r systemau oeri a'r generaduron.
Fe wnaeth Aelodau'r Senedd dros Afan Ogwr Rhondda, Sera Evans ac Alun Cox o Blaid Cymru, fynychu'r cyfarfod.
Dywedodd Ms Evans: “Yn anffodus, erbyn i ni ddod i wybod am y manylion, roedd y broses gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi mynd yn bell ac roedd y cynllun wedi'i gymeradwyo. Ond rydym wedi cyflwyno nifer o sylwadau i'r cyngor.
“Rydym hefyd wedi cwestiynu cadernid y broses ar gyfer y cais cynllunio ei hun, gan fod Julie a thrigolion eraill wedi tynnu sylw at nifer o wallau.”
Ychwanegodd eu bod yn trafod y mater gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac yn bwriadu cyfarfod â'r cyngor i godi pryderon y trigolion.
'Asesiad cynhwysfawr'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Castell-nedd Port Talbot fod penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio wedi'i seilio ar asesiad cynhwysfawr o'r cais, yr ystyriaethau cynllunio perthnasol a'r sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad.
Yn ôl y cyngor, fe wnaeth ymchwiliad i gwynion trigolion am wallau yn y dogfennau cynllunio ddod i'r casgliad nad oedd y gwallau wedi newid sylwedd y cynnig nac effeithio ar y penderfyniad.
Dywedodd llefarydd ar ran Canolfan Ddata Margam: "Mae'n ddrwg gennym glywed bod rhai preswylwyr yn teimlo nad oeddent yn ymwybodol o'r cynlluniau."
Dywedodd fod y cynigion wedi'u datblygu drwy ymgynghoriad cyn cyflwyno'r cais, ac yna drwy broses gynllunio statudol y cyngor, oedd yn cynnwys ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru.
Yn ôl y datblygwr, byddai'r ganolfan yn llai na'r safon arferol yn y diwydiant ac yn cael effaith gyfyngedig ar ddefnydd dŵr, cyflenwadau ynni a bioamrywiaeth yr ardal.