'Mae hi mor ddewr': Teulu o'r Hendy yn cynrychioli Cymru mewn gwobrau cenedlaethol

'Mae hi mor ddewr': Teulu o'r Hendy yn cynrychioli Cymru mewn gwobrau cenedlaethol

Fe fydd teulu o'r Hendy yn Sir Gâr yn cynrychioli Cymru yng ngwobrau cenedlaethol y British Heart Foundation ddydd Mawrth.

Fe gafodd Esme, sydd yn bump oed, ei geni gyda thyllau yn ei chalon gan dderbyn diagnosis o Atrioventricular septal defect (AVSD) a hithau ond yn 10 diwrnod oed. 

Yn chwe mis oed, cafodd Esme lawdriniaeth fawr ym Mryste, ac mae bellach wedi gwella. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ei rhieni, Emily a Mathew Mariani wedi codi dros £20,000 ar gyfer elusen y British Heart Foundation, a hynny er mwyn diolch am eu cefnogaeth a chodi ymwybyddiaeth o'r cyflwr. 

Nos Fawrth, fe fydd y teulu yn cynrychioli Cymru yng ngwobr Dewis y Bobl mewn cystadleuaeth sy'n dod ag enillwyr gwobrau Cyfraniad Eithriadol o bedair gwlad y DU at ei gilydd.

Bydd y goreuon o Gymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cael eu henwi yn y digwyddiad yn Llundain nos Fawrth. 

Image
Teulu Mariani
Fe gafodd Esme ddiagnosis o Atrioventricular septal defect (AVSD) a hithau ond yn 10 diwrnod oed. 

Ers diagnosis a llawdriniaeth Esme, mae Mathew ac Emily Mariani wedi defnyddio eu profiad i godi arian, ymwybyddiaeth a chefnogi eraill sy'n wynebu heriau tebyg. 

Mae'r sialensiau yn cynnwys rhedeg sawl marathon yn ogystal ag ymgyrchu cyhoeddus. 

Wrth siarad â Newyddion S4C, dywedodd Mathew: "Ma' Es yn blentyn normal, does 'na ddim byd yn ei phoeni hi, a fi'n credu bo' fi ag Em jyst yn pwshio hwnna arno Esme hefyd bo' hi'n gallu neud popeth ma' unrhyw blentyn arall yn gallu ei wneud."

Ychwanegodd: "Dwi'n credu bod e'n bwysig i fi bod teulu eraill yn jyst edrych ar ein teulu ni a wedyn bod light at the end of the tunnel.

"Maen nhw'n gallu gweld bod popeth yn mynd i fod yn iawn. Deg diwrnod oed oedd Esme pan gafodd hi'r cyflwr o'r enw atrioventricular septal defect a wedyn oedd yn rhaid i Esme gainio weight, am y llawdriniaeth lawr yn Bristol."

Image
teulu mariani
Mae'r teulu wedi codi dros £20,000 ar gyfer yr elusen.

Dywedodd mam Esme, Emily: "Fe wnaethon ni benderfynu gwneud y gorau allan o sefyllfa ddrwg, fe aethon ni drwy gyfnod anodd ac fe wnaethon ni ddefnyddio'r ymgyrchu a chodi ymwybyddiaeth fel ffyrdd o ddod i delerau â'r sefyllfa. 

"Mae'n anhygoel ein bod ni wedi cael ein cydnabod yn y categori. Mae'n gystadleuaeth gref felly byddai ennill yn anhygoel."

Mae ysgol Esme yn falch iawn ohoni hefyd. 

"Mae Esme yn ferch annwyl iawn. Mae hi a'i theulu wedi codi proffil yr ysgol shwt gymaint, a mae mor ddewr i ystyried popeth mae hi wedi mynd drwyddi," meddai'r pennaeth cynorthwyol Linda Nicklin. 

"Pan ry'n ni'n edrych nôl ar yr holl gyflawniadau fel teulu maen nhw wedi gwneud, ry'n ni yn Ysgol y Hendy yn browd iawn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.