Apelio am wybodaeth yn dilyn damwain angheuol ym Mro Morgannwg
Mae Heddlu De Cymru yn apelio am wybodaeth yn dilyn gwrthdrawiad ffordd angheuol ar Ffordd y Porthladd ger Y Barri ym Mro Morgannwg fore dydd Gwener.
Bu farw dyn 46 oed a oedd yn gyrru Range Rover yn dilyn y gwrthdrawiad gyda bws ychydig cyn 07:00.
Y dyn 46 oed a fu farw oedd yr unig berson oedd yn teithio yn y Range Rover.
Dywedodd yr heddlu fod ei berthnasau agosaf wedi cael gwybod.
Ni chafodd gyrrwr y bws, oedd yr unig berson yn y cerbyd hwnnw, anafiadau difrifol.
Mae ymchwiliad i amgylchiadau'r gwrthdrawiad ar y gweill ac mae’r llu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu.
Llun: Google