Cymru yn colli yn erbyn Awstralia yng Nghaerdydd

Cymru v Awstralia

Mae Cymru wedi colli 26-29 yn erbyn Awstralia yng ngêm olaf cyfnod cynghrair Pencampwriaeth y Cenhedloedd yng Nghaerdydd nos Sadwrn.

Roedd capten Cymru, Dewi Lake, wedi dweud bod gan Gymru "hyder gwahanol" wrth iddyn nhw baratoi i wynebu Awstralia yn dilyn eu buddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Seland Newydd wythnos yn ôl.

Roedd y prif hyfforddwr Steve Tandy wedi gwneud pedwar newid i’r tîm a wynebodd y Crysau Duon.

Cafodd Cymru ergyd ar ôl dwy funud pan dderbyniodd y canolwr Max Llewellyn gerdyn melyn am dacl uchel.

Fe wnaeth Cymru'n dda i wrthsefyll Awstralia yn y cyfnod hwnnw gyda'r tîm cartref yn ymosod gyda'r asgellwr Louis Rees-Zammit bron â sgorio yn y gornel.

Cafodd Cymru gyfleoedd o sawl lein yn dilyn ciciau cosb yn agos at y llinell ac er i'r capten Dewi Lake groesi'r llinell gais nid oedd wedi llwyddo i dirio'r bêl.

Er i Gymru bwyso, Awstralia aeth ar y blaen gyda'r prop Taniela Tupou yn hyrddio drosodd ar ôl 20 munud. Cymru 0-5 Awstralia.

Fe groesodd Cymru'r llinell gais eto gyda'r mewnwr Tomos Williams yn methu tirio'r bêl y tro hwn.

Roedd Cymru wedi ymosod i mewn i 22 Awstralia bedair o weithiau heb sgorio ond fe wnaeth Awstralia sgorio ail gais gyda'u hail ymweliad â 22 Cymru gyda'r bachwr Brandon Paenga-Amosa yn croesi a'r mewnwr Ryan Lonergan yn trosi. Cymru 0-12 Awstralia ar ôl 32 munud.

Fe gollodd Cymru gyfle eto yn agos at linell Awstralia wrth golli lein arall a rhoi'r cyfle i'r ymwelwyr glirio.

Ond o'r diwedd, yn eiliadau olaf yr hanner, fe lwyddodd Cymru o lein gyda Lake yn croesi y tro hwn a'r maswr Sam Costelow yn trosi.

Y sgôr ar yr hanner: Cymru 7-12 Awstralia.

Ail hanner

Awstralia a darodd yn gyntaf yn yr ail hanner gyda'r asgellwr Max Jorgensen yn croesi ar ôl i Gymru fethu â dygymod â'r bêl uchel. Fe drosodd Lonergan. Cymru 7-19 Awstralia.

Prin ddwy funud yn ddiweddarach fe groesodd Lake am ei ail gais yn yr un modd â'r cyntaf gyda Costelow yn trosi ar ôl 50 munud i ddihuno'r dorf. Cymru 14-19 Awstralia.

Yna fe aeth Cymru ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm wrth i Rees-Zammit ddangos ei gyflymdra ar hyd yr asgell gyda'r cefnwr Blair Murray yn coroni symudiad godidog.

Fe drosodd Costelow unwaith yn rhagor. Cymru 21-19 Awstralia.

Fe ddaeth dihangfa i Gymru wrth i gais Awstralia gael ei wrthod oherwydd bod y bêl wedi cael ei tharo ymlaen yn gynharach yn y symudiad.

Ond methodd Cymru â gwrthsefyll pwysau Awstralia ar ôl 63 munud wrth i'r canolwr Len Ikitau sgorio gyda'r maswr Carter Gordon yn trosi i ddodi'r ymwelwyr nôl ar y blaen. Cymru 21-26 Awstralia.

Fe lwyddodd Gordon gyda chic gosb ar ôl 72 munud i ymestyn mantais Awstralia i wyth pwynt. Cymru 21-29 Awstralia.

Ond nid oedd ymdrechion Cymru ar ben ac fe groesodd yr eilydd Ryan Elias am gais ar ôl cyfnod o bwysau gan y blaenwyr gyda dwy funud yn weddill a phwynt bonws.

Ond roedd hyn yn rhy hwyr i Gymru wrth i Awstralia gipio'r fuddugoliaeth.

Y sgôr terfynol: Cymru 26-29 Awstralia.

Mae'r golled yn golygu fod Cymru wedi gorffen yn bumed yn nhabl Hemisffer y Gogledd ac felly yn herio Japan yn y Rowndiau Terfynol yn Twickenham brynhawn dydd Sadwrn nesaf.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.