Athletwr Hyrox o Aberystwyth sydd ar frig rhestr y byd yn gobeithio am noddwyr
Mae athletwr paralympaidd o Aberystwyth yn chwilio am noddwyr i'w helpu i wireddu ei freuddwyd o deithio i gystadlaethau Hyrox rhyngwladol.
Mae Jac Sheehan, sy'n 18 oed, ar frig rhestr y byd yn ei gategori yn Hyrox gydag amser o awr a phedwar munud. Mae’r categori ar gyfer athletwyr sy’n cystadlu ar eu heistedd ac sy’n gallu defnyddio eu cluniau.
Mae Hyrox yn gystadleuaeth ffitrwydd ryngwladol sy’n cyfuno rasio ag ymarferion sy’n profi cryfder a dygnwch.
Dywedodd Jac, sydd â pharlys yr ymennydd, fod ei lwyddiant yn Hyrox wedi dod fel “sioc” iddo. Mae bellach yn gobeithio cael gwahoddiad i gystadlu ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Hong Kong yn 2027.
Mae hefyd wedi cael ei ddewis i garfan rygbi cadair olwyn Cymru. Ei nod ym myd athletau yw cynrychioli Prydain yn taflu’r maen yng Ngemau Paralympaidd Los Angeles yn 2028 neu Brisbane yn 2032.
Dywedodd Jac y byddai cael noddwyr yn ei helpu i dalu am y teithiau o Aberystwyth i gystadlaethau ledled Prydain.
“Ti angen teithio i wneud popeth,” meddai Jac.
“Mae’r rhan fwyaf o competitions fi yn Lloegr. Dwi’n cael rhai ohonyn nhw mewn Caerdydd. Maen nhw gyd dros y lle.
“Fi’n oce gyda’r teithio. Ond mae petrol yn mynd lan. Mae fe’n fine, ond mae fe’n eitha caled trio mynd i bob peth gyda’r arian ’ma.
“Byddai mwy o arian yn ei wneud yn lot mwy accessible i bobl gyda disabilities. Mae gyda nhw lot o bethau i fynd â gyda nhw, ac angen transport gwahanol.”
Mae’n gwneud sesiynau cryfder a chyflyru ym Mhrifysgol Aberystwyth am chwech y bore. Mae hefyd yn teithio i Abertawe bob wythnos i hyfforddi.
Mae hynny ar ben ei waith fel achubwr bywyd mewn pwll nofio.
Dywedodd Jac nad oes llawer o arian i’w ennill yn Hyrox ac mai ei brif nod ar hyn o bryd yw dod o hyd i noddwyr.
“Mae lot o chwaraeon am sponsors,” meddai. “So hwnna oedd main goal fi, trial nôl sponsors i gael arian i deithio.”
Dywedodd fod denu noddwyr yn dibynnu ar ei ganlyniadau ac ar faint o bobl sy’n ei ddilyn ar y cyfryngau cymdeithasol, yn enwedig ar ei gyfrif Instagram.
Sut mae Hyrox yn gweithio?
Yn ras agored y dynion, mae’r cystadleuwyr yn rhedeg un cilometr cyn pob un o’r wyth ymarfer, sef cyfanswm o wyth cilometr.
Y pedwar ymarfer cyntaf yw gwneud 1,000m ar beiriant SkiErg, gwthio sled 152kg am 50m, tynnu sled 103kg am 50m a gwneud burpees gyda naid ymlaen am 80m.
Yna mae’r cystadleuwyr yn rhwyfo 1,000m, yn cario pwysau o 24kg ym mhob llaw am 200m ac yn gwneud lunges am 100m gyda bag tywod 20kg ar eu hysgwyddau. Yr her olaf yw taflu pêl 6kg at darged 3m o uchder 100 o weithiau.
Mae rhai o’r ymarferion yn wahanol yng nghategori Jac. Yn lle gwthio’r sled, er enghraifft, mae’n ei chlymu wrth gefn ei gadair olwyn a’i thynnu. Wrth wneud y lunges, mae’n codi’r bag tywod o’r llawr i’w goesau, yn symud ei gadair ymlaen ac yn rhoi’r bag yn ôl ar y llawr.
“Dwi’n meddwl mai’r row ydi fy hoff station,” meddai. “Fi’n gallu cadw fel consistency gyda fe. Gyda’r SkiErg a’r rower mae o mwy fel rest station.
“Ond y lunges - yr un fi’n codi’r sandbag lan ar y coesau fi a rhoi fe nôl lawr. Dwi ddim yn hoffi hwnna at all.”
'Un person o fy mlaen i'
Dywedodd mai cystadlu mewn taflu'r maen (shot put) yn y Gemau Paralympaidd oedd eibrif nod a’i fod wedi dechrau gwneud Hyrox er mwyn cadw yn heini yn ystod y gaeaf.
Ym mis Ionawr, fe ddaeth yn bencampwr Cymru yn taflu’r maen yn yr adran iau. Yna, er ei fod yn parhau yn gymwys i gystadlu yn y categori iau, fe ddechreuodd gystadlu yn adran yr oedolion, gan ennill medal aur ym Mhencampwriaethau Dan Do Cymru yng Nghaerdydd.
Fe barhaodd ei lwyddiant yn Aberdâr, lle enillodd deitl taflu’r gaeaf Athletau Cymru.
“Maen nhw’n gampau gwahanol iawn,” meddai.
“Mae Hyrox am gadw i fynd. Mae shot put yn sport diog! Achos does dim cario. Ti jesd yn taflu, a thaflu.
“Os fi’n gallu neud y HYROX, fi’n meddwl fi’n hoffi hwnna mwy. Mwy o endurance, pethau fel triathlon a phethau fel ’na.
“Ond ar hyn o bryd fi’n gwneud mwy o ymarfer power-based achos fi nawr yn mynd mewn i’r tymor taflu pwysau.
“Reit nawr mae un person o fy mlaen i ym Mhrydain, a fi’n trial ei basio fe. Fi’n meddwl mae fe jyst dros naw metr. Fi ar bach dros wyth a hanner.”
