Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn cydnabod diffyg ymgynghori ar gynllun £1m yn Nant Ffrancon

Ffermio
Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol wedi cydnabod na fu digon o amser i ymgynghori’n iawn â ffermwyr a thrigolion cyn cyhoeddi cynllun £1m i adfer byd natur yn Nant Ffrancon.

Mae rhai ffermwyr a thrigolion lleol yn galw am atal y cynllun am y tro. Maen nhw’n poeni am ddyfodol y traddodiad o fagu defaid cynefin yn y dyffryn. 

Mae’r Ymddiriedolaeth yn dweud y bydd pori gwartheg a defaid yn rhan o’r cynllun a bod cyfle o hyd i bobl leol ddylanwadu arno.

Mae Nant Ffrancon yn ddyffryn sy'n ymestyn o Fethesda hyd at Lyn Ogwen ac yn ardal sy'n enwog am ei harddwch eithriadol ac sydd wedi rhoi bywoliaeth i nifer o ffermwyr a'u teuluoedd ar hyd y canrifoedd.

Ond yn ôl yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, mae'r ardal yn wynebu dirywiad ecolegol difrifol ac yn sgil hynny, maen nhw wedi cael miliwn o bunnau er mwyn dechrau prosiect newydd fydd, meddan nhw, yn adfer byd natur gan gydweithio hefo'r gymuned a'r ffermwyr. 

Ond nid pawb sydd yn cytuno gyda chyfeiriad y cynllun, gyda rhai ffermwyr yn dweud eu bod nhw’n “creu parc thema amgylcheddol” heb ystyried yr effaith ar ffermwyr. 

Dywedodd Trystan Edwards o’r Ymddiriedolaeth (prif lun) wrth raglen Ffermio ei fod yn derbyn beirniadaeth y gymuned nad oedden nhw wedi ymgynghori digon gyda nhw wrth lunio'r cynllun a cyn iddo ddechrau.

“Fyswn i'n derbyn bod hynny'n feirniadaeth teg,” meddai.

“Mewn gwirionedd, cyfnod byr iawn sydd ‘na i ddatblygu cais a felly wrth lunio cysyniad mewn ffordd, ychydig bach iawn amser, dim digon o amser i ymgynghori'n iawn.

“Ond mae 'na ddigon o le o fewn y cynllun i ni fod yn rhoi darlun newydd ar gyfer y dyfodol.”

Roedd yn cydnabod "bod angen i ni sicrhau bod pawb yn cael eu cynnwys fewn yn y trafodaeth”. 

“Be fyswn i'n dweud ydy mai rŵan ydy'r man cychwyn i'r trafodaethau.

“Be mae'r cynllun wedi rhoi i ni adnoddau, bobl, swyddi, er, i fod yn medru cael trafodaethau nid yn unig efo ffermwyr ond efo'r gymuned, cymunedau eang sydd yna yn Nant Ffrancon ac yn Nyffryn Ogwen.”

Dywedodd nad oedden nhw yn mynd “mynd i fedru llwyddo i gadw'r tirlun fan hyn yn edrych fel ag y mae o ac i gael cadwraeth ar ei orau heb amaeth”.

Image
Arwel a Meurig Roberts
Arwel a Meurig Roberts

‘Effaith lot mwy eang’

Bydd y cynllun Natur i Bobl yn ymestyn dros 4000 o erwau, yn cynnwys creu Hwb Natur Ogwen ar gyfer cysylltu â'r gymuned, rhoi coleri GPS ar dda byw er mwyn rheoli pori yn fwy manwl, cydweithio â Chyfoeth Naturiol Cymru i adfer mawndir ac adfer gorlifdir afon Ogwen. 

Ond mae criw o ffermwyr lleol, gan gynnwys Arwel a'i frawd Meurig Roberts, sy'n ffermio ger Llyn Ogwen, wedi sefydlu grŵp ymgyrchu sydd wedi codi nifer o bryderon am y cynllun. 

Maen nhw'n dadlau fod yr Ymddiriedolaeth yn anwydbyddi traddodiadau ffermio'r ardal, yn arbennig yr arferiad o gadw a magu defaid cynefin. 

“Dan ni'n gweld nifer y defaid yn mynd o'r ffermydd National Trust ‘ma,” meddai Meurig Roberts.

“Wedyn, 'dan ni yn colli, yn cymdogion i fynd i alw ar i fynd i gasglu mynyddoedd ein hunain hefyd. 

“Gan bod y ddafad yn mynd o'r tirwedd, mae defaid eraill yn crwydro mewn. Mae'n cael effaith lot mwy eang mewn ffordd.”

Ond a yw’r Ymddiriedolaeth yn gywir i ddweud bod yna ddirywiad ecolegol difrifol yn Nant Ffrancon? 

“Dych chi'n mynd yn ôl i'r '90au, pan oedd yna gorbori a miloedd o ddefaid,” meddai. “Roedd yna gorbori adeg yno.

“Ond ers rhai blynyddoedd mae schemes 'di dod mewn, dim pori gaea’. Wedyn mae'r llefydd, maen nhw 'di mynd yn wyllt oherwydd does 'na ddim stoc yno. 

“Mae hynny i gyd yn yr 20 mlynedd diwetha'. Oedd y lle yn iawn cynt? Dw i'm yn gwybod. 

“Ond wrth dynnu stoc yno, mae'r molinia grass ma’ yn cael tyfu, mae’n mynd yn wyllt, mae’n mynd yn andros o fire risk.”

‘Ffodus’

Dydy'r brodyr ddim ar eu pennau eu hunain. Mae nifer o ffermwyr a phobl leol yn teimlo na fu digon o ymgynghori ac y dylid atal y cynllun am y tro. 

Dywedodd Ieuan Wyn sy’n byw yn y dyffryn ei fod wedi “cael siom eithriadol yn yr Ymddiriedolaeth bod nhw wedi llunio cynllun ac wedi derbyn miliwn o bunnau heb ymgynghori”. 

“Doedd neb yn gwybod dim am y cynllun yn Nyffryn Ogwen nag yn y Nant. Darllen datganiad yn y wasg, nath pobl yr ardal. Dyna pryd sonia' i wybod cyntaf amdano fo.”

Image
Bryn Owen
Bryn Owen

Ond nid pob ffermwr sydd yn gwrthwynebu'r cynllun. Mae gan Bryn Owen drwydded bori ar gyfer ei fuches o wartheg duon Cymreig ar fferm Blaen y Nant yn Nant Ffrancon, fferm sy'n eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. 

“Pan welais i'r hysbyseb gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol bod nhw'n chwilio am borwyr, es i gais i mewn i ddod yma efo'r gwartheg duon Cymreig yma,” meddai. 

“A fues i'n ffodus o gael dod yma i bori hefo nhw. Maen nhw wedi bod yma rŵan ers dros flwyddyn bellach.”

Ychwangeodd: ”Mae cael bod yma 'di rhoi cyfle i mi gynnyddu'r fuchas, achos daliad fychan iawn sydd gennnyn ni adre. 

“Dwi’n edrych ymlaen i weld be sydd ganddyn nhw i gynnig.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.