Plaid Werdd Cymru yn pleidleisio i ddechrau'r broses o wahanu oddi wrth y blaid yn Lloegr

ITV Cymru
Llun: ITV Cymru
Paul Rock

Mae aelodau'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi pleidleisio o blaid dechrau'r broses o sefydlu plaid annibynnol ar wahân i Blaid Werdd Cymru a Lloegr.

Cafodd y penderfyniad ei wneud yn ystod cynhadledd y blaid ym Mhrifysgol Bangor ddydd Sul.

Mewn neges ar eu cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Gwyrddion Cymru eu bod wedi pleidleisio i "ddechrau'r broses tuag at Blaid Werdd Gymru annibynnol".

Roedd cynnig gerbron y gynhadledd yn galw am i'r blaid yng Nghymru ddod yn annibynnol erbyn 2034.

Mae hynny'n golygu na fydd y gwahanu'n digwydd ar unwaith, gyda'r bwriad o gynnal y broses dros yr wyth mlynedd nesaf.

Cyn y bleidlais, dywedodd Paul Rock AS dros Gaerdydd Ffynnon Taf y byddai sefydlu plaid annibynnol yn cryfhau hunaniaeth Gymreig y Gwyrddion.

"Rwy'n credu mai'r fantais fyddai bod gennym ni ein hunaniaeth ein hunain.

"Mae gennym ni ein hunaniaeth ein hunain yn barod, ond byddai gennym hunaniaeth gryfach fel plaid gwbl Gymreig, fel sydd gan yr Albanwyr."

Er hynny, fe wnaeth gydnabod bod y blaid yng Nghymru wedi cael cefnogaeth sylweddol gan y blaid ehangach.

"Rydyn ni wedi cael cefnogaeth aruthrol gan Blaid Werdd Cymru a Lloegr, yn enwedig yn ystod ymgyrch y Senedd, ond hefyd yn ystod ymgyrchoedd eraill.

"Mae angen i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n barod."

Nid dyma'r tro cyntaf i aelodau Gwyrddion Cymru ystyried gwahanu oddi wrth y blaid ehangach.

Yn 2018, fe wnaeth 65% o'r aelodau a bleidleisiodd wrthod cynnig i sefydlu plaid annibynnol yng Nghymru.

Ond yn 2023, dywedodd arweinydd y blaid, Anthony Slaughter, ei fod yn credu bod gwahanu yn anochel ac yn ddymunol.

Fe wnaeth Gwyrddion Cymru ennill eu dwy sedd gyntaf yn y Senedd yn etholiad mis Mai eleni, gydag Anthony Slaughter a Paul Rock yn cael eu hethol.

Mae Plaid Werdd yr Alban eisoes yn gweithredu fel plaid wleidyddol ar wahân, wedi iddi wahanu oddi wrth y blaid Brydeinig yn 1990.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.