Cyngor yn pleidleisio yn unfrydol i brynu tai a'u dymchwel o achos risg llifogydd

02/02/2026
Clydach Terrace, Ynysybwl

Mae cabinet Cyngor Sir Rhondda Cynon Taf wedi pleidleisio yn unfrydol i brynu tai mewn stryd sydd â risg uchel o lifogydd. 

Bwriad y cyngor yw prynu'r cartrefi yn Ynys-y-bwl ger Pontypridd er mwyn eu dymchwel, ar ôl i'r trigolion symud i rywle arall oherwydd y perygl uchel sy'n wynebu'r stryd.

Fe gafodd yr argymhelliad ei gyflwyno i gabinet yr awdurdod lleol ddydd Llun, sef prynu tai 1-16 (ac eithrio 6a a 6b) ar Deras Clydach am £2.57m.

Roedd preswylwyr o'r stryd yn bresennol yn y cyfarfod ddydd Llun, ac fe gafodd datganiadau ar ran y trigolion eu darllen o flaen y cabinet.

Mae'r cartrefi wedi dioddef difrod sylweddol yn sgil llifogydd wedi Storm Dennis a Storm Bert yn y blynyddoedd diwethaf.

Yn ôl adroddiad cabinet yn ystod y stormydd hyn roedd llawer o'r palmant a'r ffordd fawr o dan ddŵr. Roedd difrod sylweddol i'r eiddo oedd yn golygu bod trigolion yn ei chael hi'n anodd cael yswiriant am fod y costau yn uchel.

Ym mis Mehefin y llynedd fe wnaeth Cyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi dogfen ynglŷn â rheoli risgiau llifogydd yn Ynys-y-bwl. Roedd y papur yn edrych ar sawl opsiwn ar gyfer Teras Clydach gan gynnwys adeiladu wal i amddiffyn y tai rhag llifogydd. 

Ond roedd y corff yn dweud nad oedd hyn yn opsiwn economaidd effeithiol.

Mae'r adroddiad yn dweud bod yna berygl i fywyd yn yr ardal ac i iechyd y bobl.

Roedd y ddogfen hefyd yn nodi y byddai'r cyngor yn siarad gyda'r trigolion sydd yn byw yn y tai i asesu eu hanghenion o safbwynt cartrefi a'u llesiant.

Mae hynny wedi digwydd erbyn hyn a thrafodaeth wedi ei gynnal ynglŷn â phrynu'r tai ac ail gartrefi'r bobl sydd yn byw ynddynt.

Am fod tai 6a a 6b wedi eu codi yn uwch ar y ffordd, dyw'r rhain ddim mewn perygl mawr o gael llifogydd yn ôl yr awdurdodau, ac roeddynt wedi eu heithrio o'r cynnig.

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.