Bil cymorth i farw: 'Pwysig cael marwolaeth pobl yn gywir'
“Un cyfle sydd gyda ni o ran cael marwolaeth rhywun yn iawn, ac mae’n bwysig bod ni’n rhoi’r sylw yna iddyni nhw.”
Dyma eiriau Dr Gwenllian Davies, sy’n ymgynghorydd gofal lliniarol yn ne Cymru ac sydd ymhlith 250 o feddygon a arwyddodd lythyr yn galw ar wleidyddion yn Senedd Cymru i wrthod y gyfraith cymorth i farw yn gynharach y mis hwn.
Gyda dros ddegawd o brofiad yn y maes, mae’n dweud ei bod yn bryderus am safon y gofal y byddai pobl fregus a phobl ar ddiwedd eu hoes yn eu derbyn pe bai’r ddeddfwriaeth yn dod i rym.
Ond a hithau’n byw gyda chyflwr sglerosis ymledol (‘multiple sclerosis’), mae Gemma Williams o Sir Gaerfyrddin yn dweud nad yw’n deg i beidio â rhoi’r dewis i bobl sy’n dymuno marw gyda chymorth.
“Os nad wyt ti eisiau marw gyda chymorth, does neb yn dweud bod yna rhaid i ti wneud - ond dwi ddim yn meddwl y dylai pobl gwrthod rhoi’r dewis yna i eraill sydd yn dymuno gwneud,” meddai.
Pe bai'n cael ei basio fe fyddai’r Bil Oedolion â Salwch Terfynol (Diwedd Oes) yn rhoi’r hawl i bobl 18 a hŷn yng Nghymru a Lloegr, sydd â llai na chwe mis ar ôl o’u bywydau, wneud cais am gymorth i ddod a’u bywydau i ben.
Mae’r bil yn y broses o fynd drwy'r Tŷ Arglwyddi yn San Steffan ar hyn o bryd, wedi i amser ychwanegol gael er roi i’w drafod.
Mae'n ddigon posib na fydd yn cael ei gymeradwyo yno cyn diwedd y sesiwn seneddol ym mis Mai, gan olygu na fydd yn dod yn ddeddf.
Ond mae'r Arglwydd Falconer, sydd o blaid y mesur, wedi bod yn siarad am y posibilrwydd o ddefnyddio pwerau arbennig er mwyn gwthio'r bil drwy'r Tŷ' Arglwyddi.
Mae wedi bygwth defnyddio'r Ddeddf Senedd ('Parliament Act'), sydd wedi cael ei ddefnyddio lai na 10 gwaith ers 1911, er mwyn sicrhau nad yw'r mesur yn methu.
Roedd disgwyl i wleidyddion ym Mae Caerdydd drafod y mesur ym mis Ionawr, ond mae hynny bellach wedi ei ohirio tan 24 Chwefror.
Fe fyddai disgwyl iddynt bleidleisio bryd hynny er mwyn penderfynu a ddylai Llywodraeth y DU deddfu ar ran Senedd Cymru mewn cysylltiad â’r bil cymorth i farw.
Gan fod iechyd yn fater datganoledig, ac oherwydd y byddai’r bil yn berthnasol yng Nghymru a Lloegr, mae’n rhaid i Senedd Cymru gydsynio i unrhyw newidiadau a fyddai’n cael eu gwneud i’r gwasanaeth iechyd yma.
Mae’n bosib y gallai’r hawl gyfreithiol i farw barhau i ddod mewn i rym yng Nghymru heb gymeradwyaeth Senedd Cymru, ond na fyddai’r gwasanaeth yn cael ei ddarparu gan y GIG.
'Pryder'
Mae Dr Gwenllian Davies yn pryderu y gallai pobl fregus ddioddef o ganlyniad i’r bil cymorth i farw ac mae’n dweud y dylai gwella gofal lliniarol fod yn flaenoriaeth yn lle.
“Odd claf gyda fi, ‘odd salwch terfynol gyda nhw, ond gyda nhw yn teimlo’n mor wael ‘natho nhw trio cymryd ei bywyd a ‘natho nhw fynd mewn i A&E," meddai.
“Ac ar ôl ychydig bach o amser ‘nathon nhw ddod i’r hosbis a trwy drin eu symptomau nhw – rhai meddyliol a rhai corfforol – odd y claf ‘na wedi gallu mynd adre’ a byw am fisoedd adre.
“Datho nhw nôl mewn atyn ni ar gyfer diwedd ei bywyd a medru edrych nôl ar y cyfnod ‘na a meddwl: ‘O fi’n gallu gweud fi’n falch ‘des i mewn atyn nhw, fi’n falch nes i ddim llwyddo i ladd y’n hunain'.
“Pan fi’n meddwl am y bil ‘ma, tasai’r person ‘na wedi ‘neud beth oedden nhw wedi neud gyda’r bil wedi pasio, fi ddim yn siŵr byddan nhw wedi cael mwy o fywyd a ddim wedi cael y pleser ‘na yn y misoedd ola’, a hwnna sy’n poeni fi mwy na dim fi’n credu.
“Fy mhryder yw bod e’n dargyfeirio arian o gofal iechyd a ni’n gwybod yn barod, mae gofal iechyd yng Nghymru – ni’n stryglan.
“Mae anghenion arbennig gyda ni yng Nghymru o ran iechyd felly dwi ddim yn gweld bod hwnna’n deg o gwbl.”
'Digon yw digon'
Mae Gemma Williams yn credu y dylai aelodau Senedd Cymru bleidleisio o blaid cefnogi’r cynnig ar gydsyniad deddfwriaethol (‘Legislative Consent Motion’) os oes cyfle i wneud hynny ddiwedd y mis.
Mae’n dweud ei bod yn credu y byddai hynny’n sicrhau y gallai Cymru lunio’r gwasanaeth a fyddai’n darparu cymorth i farw yn benodol i bobl yn y wlad yma.
“Hyd yn oed os nag wyt ti’n cefnogi cymorth i farw, mae'r cynnig am gydsyniad deddfwriaethol yn wirioneddol bwysig i Gymru fel y gall Cymru gael rheolaeth pe bai'n digwydd,” meddai.
“Yn bersonol, dwi’n cefnogi cymorth i farw a dwi’n credu y dylai hynny fod yn rhywbeth y gallai pobl ei ddewis.”
Fe gafodd Ms Williams, sy’n wreiddiol o Fryste ond sydd wedi ymgartrefu ar fferm deuluol ei gŵr yn Sir Gâr ers 30 mlynedd, ddiagnosis o sglerosis ymledol yn 21 oed.
A hithau bellach yn 47 oed, mae’r fam o Landdeusant yn dweud ei bod hi wedi gweld aelodau eraill o’i theulu yn dioddef gyda salwch terfynol a bod hynny wedi bod yn “ofnadwy.”
“Os oedd e’n dod i’r pwynt ble o’n i’n dioddef gormod, byddwn i’n hoffi cael y dewis i ddweud nad ydw i eisiau byw fel hyn mwyach.
“Ac eto, rwy'n credu y dylai hynny fod yn ddewis i mi a neb arall. Dwi wedi cael cyfnodau pan mae’r poen wedi bod yn mor ddifrifol a nad oes yna unrhyw feddygyniaeth sydd yn lleddfu’r poen yna.
“Pe bai hynny'n barhaol drwy'r amser, byddwn i eisiau cael y dewis i ddweud digon yw digon.”
Ar ffin datganoli
Yr AS Llafur yn San Steffan, Kim Leadbeater oedd yn gyfrifol am gyflwyno’r bil cymorth i farw yn wreiddiol yn 2024.
Mae eisoes wedi cael ei gymeradwyo gan ASau yn Nhŷ’r Cyffredin gan arwain at gam nesaf y drafodaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi.
Mae’n parhau i gael ei drafod yno gyda dros mil o welliannau wedi eu cyflwyno iddynt ar hyn o bryd.
Fe fydd rhaid i’r mesur ddychwelyd i’r Tŷ Cyffredin unwaith eto gyda’r ddau dŷ yn gorfod cytuno ar fersiwn derfynol cyn iddo ddod yn gyfraith.
Mae’n bwnc sy’n eistedd ar ffin datganoli gan fod y system gyfiawnder heb ei datganoli ond fod iechyd eisoes wedi ei ddatganoli i Gymru.
Fis Hydref 2024 fe gafodd egwyddorion cyffredinol cymorth i farw eu gwrthod gan ASau Senedd Cymru.
Pleidleisiodd 19 AS o blaid, 26 yn erbyn, gyda naw aelod arall wedi ymatal neu wrthod pleidleisio.