Ail ddynes yn honni iddi gael ei gyrru gan Epstein at Andrew, medd cyfreithiwr
Mae ail ddynes wedi honni bod y troseddwr rhyw Jeffrey Epstein wedi ei hanfon i’r DU at Andrew Mountbatten-Windsor, yn ôl ei chyfreithiwr.
Mae’r ddynes yn honni iddi dreulio noson gydag Andrew yn Royal Lodge yn Windsor yn 2010, yn ôl Brad Edwards o’r cwmni cyfreithiol Edwards Henderson sydd yn cynrychioli nifer o ddioddefwyr honedig Epstein. Roedd hi yn ei 20au ar y pryd, meddai.
Mae Andrew Mountbatten-Windsor wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le yn y gorffennol.
Daw’r honiad diweddaraf wrth i’r Prif Weinidog, Syr Keir Starmer, ddweud y dylai'r cyn-dywysog Andrew baratoi i roi tystiolaeth i Gyngres yr Unol Daleithiau am ei gysylltiadau â Jeffrey Epstein.
Roedd angen “canolbwyntio ar y dioddefwyr” wrth ymdrin â throseddau Epstein a dylai Andrew rannu gwybodaeth “ar ba ffurf bynnag” yr oedd angen gwneud hynny, ychwanegodd y Prif Weinidog.
Daw ei alwad wedi i ddelweddau sy’n ymddangos fel petaen nhw’n dangos Andrew yn cyrcydu dros fenyw gael eu cyhoeddi gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ddydd Gwener.
Roedden nhw ymysg mwy na thair miliwn o ddogfennau a gyhoeddwyd gan Adran Gyfiawnder yr Unol Daleithiau ddydd Gwener yn ymwneud â Epstein.
Ddydd Sadwrn, dywedodd y cyfreithiwr Brad Edwards wrth y BBC bod “o leiaf un fenyw” yn honni iddi “gael ei hanfon gan Jeffrey Epstein at y Tywysog Andrew”.
Ar ôl y cyfarfyddiad honedig, aethpwyd â’r fenyw i Balas Buckingham am de, meddai Edwards.
Dywedodd y BBC na allent gadarnhau unrhyw ymweliad yn erbyn cofnodion y Palas heb ddatgelu hunaniaeth y fenyw, ac nid oedd Andrew Mountbatten-Windsor wedi ymateb i gais am sylw ganddynt.
Mae Brad Edwards yn cynrychioli mwy na 200 o oroeswyr Epstein ledled y byd, ac ef oedd wedi cynrychioli Virginia Giuffre a oedd yn honni iddi gael rhyw gydag Andrew dair gwaith.
Fe ddaeth y Tywysog Andrew i setliad ariannol gyda Ms Giuffre yn 2022, ond mae wastad wedi gwadu gwneud unrhywbeth o'i le.
Fe wnaeth Virginia Giuffre farw drwy hunanladdiad y llynedd.
Yn yr hydref dywedodd Palas Buckingham: “Mae meddyliau a chydymdeimlad mwyaf Ei Fawrhydi gyda dioddefwyr a goroeswyr unrhyw fath o gam-drin”.
Fe gollodd Andrew Mountbatten-Windsor yr hawl i ddefnyddio'r teitlau tywysog neu Ddug Efrog y llynedd.
Cafodd Epstein ei ddarganfod yn farw yn ei gell mewn carchar ym Manhattan yn Awst 2019, tra roedd yn aros am ei achos llys ar gyhuddiad o gyfres o droseddau rhyw.
Llun gan Jordan Pettitt / PA.
