Caerdydd: Ffliw adar mewn alarch marw yn y Bae

Alarch

Mae Cyngor Caerdydd wedi rhybuddio y cyhoedd ar ôl cadarnhau achos o ffliw adar mewn alarch marw ym Mae Caerdydd.

Mae nifer o adar marw hefyd wedi'u canfod yn Llyn Parc y Rhath a Llyn Hendre ac yn cael eu profi am y feirws ar hyn o bryd.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Mae'n beth prin iawn i straen H5N1 y ffliw gael ei drosglwyddo i bobl, ond fel rhagofal, dylech osgoi cyswllt ag adar marw neu sâl.

"Peidiwch â bwydo adar gwyllt mewn mannau cyhoeddus gan fod hyn yn eu hannog i ddod at ei gilydd, gan gynyddu'r risg o drosglwyddo’r haint.

"Os ydych chi'n cyffwrdd ag unrhyw adar marw, baw adar, plu neu ddeunydd arall sydd wedi cyffwrdd ag aderyn marw, golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr cyn gynted â phosibl."

Gallwch roi gwybod i DEFRA/ APHA am adar marw gan ddefnyddio eu teclyn adrodd ar-lein neu drwy ffonio 03459 33 55 77.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.