A fydd gemau Cwpan y Byd yn dod i Wrecsam a Chaerdydd?
Mae disgwyl i FIFA gadarnhau brynhawn Llun y bydd Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cynnal Cwpan y Byd i Ferched yn 2035.
Cais y pedair gwlad yw'r unig gais i gynnal y twrnamaint. Bydd cyfarfod FIFA, sy'n cael ei gynnal ar-lein, yn dechrau am 14:00, amser Cymru.
Dyma fyddai'r tro cyntaf i'r DU gynnal Cwpan y Byd i Ferched. Byddai 48 o dimau'n chwarae 104 o gemau dros gyfnod o 39 diwrnod, yn ôl cynllun y pedair gwlad.
Mae'r cais yn cynnig 19 o stadia i gynnal y gemau. Mae 14 ohonyn nhw yn Lloegr, un yng Ngogledd Iwerddon, dwy yn yr Alban a dwy yng Nghymru, sef Stadiwm Principality a Stadiwm Dinas Caerdydd.
Gallai'r Cae Ras yn Wrecsam gael ei ychwanegu at y rhestr os bydd y clwb yn ehangu'r stadiwm eto erbyn canol y ddegawd nesaf.
Mae disgwyl i'r stadiwm gael ei ehangu i ddal 18,000 o gefnogwyr erbyn diwedd y gwaith ailddatblygu presennol. Ond bydd angen ehangu'r stadiwm eto cyn 2035 er mwyn bodloni gofynion FIFA.
Dywedodd Noel Mooney, prif weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru: “Mae Cymru wedi bod yn genedl bêl-droed ers 150 o flynyddoedd, a dydyn ni erioed wedi cynnal dim byd ar y raddfa hon.
“Byddai gweld gemau Cwpan y Byd yn cael eu chwarae yma, o flaen plant Cymru, yn newid wyneb pêl-droed yng Nghymru.
“Byddai'r newid i'w weld yn y clybiau, yn yr ysgolion ac yn nifer y merched fyddai'n tyfu i fyny yn gweld lle iddyn nhw eu hunain yn y gamp.”
Cafodd cais Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon sgôr o 4.3 allan o bump yn asesiad FIFA, a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn.
Ond yn ôl yr asesiad, roedd 'risg ganolig' yn gysylltiedig â'r fframwaith cytundebol.
Roedd y ddogfen yn dweud bod “amodau o bwys ynghlwm wrth rai o warantau'r llywodraeth, yn enwedig o ran treth, diogelwch a mesurau diogelu”.