Ffermwr yn rhybuddio am ergyd ariannol ffliw adar cyn cyfyngiadau newydd
Mae cynhyrchydd wyau o Feirionnydd yn dweud bod bygythiad ffliw adar yn achosi pryder bob blwyddyn, wrth i fesurau newydd i gadw adar dan do ddod i rym yng Nghymru.
Mae Llion Pugh, sy’n cadw 32,000 o ieir gyda busnes Wyau Dysynni yn Llanegryn ger Tywyn, yn croesawu’r cam.
O 12:00 ddydd Llun, 23 Tachwedd, bydd gofyn cyfreithiol i unrhyw un sy’n cadw 50 neu fwy o adar eu cadw dan do.
Bydd y rheol hefyd yn berthnasol i heidiau llai os yw wyau neu gynnyrch dofednod yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i eraill.
Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae’r mesurau’n angenrheidiol i ddiogelu iechyd a lles adar a bywoliaeth pobl sy’n eu cadw.
Wrth gofio achosion y llynedd, dywedodd Llion: “Gathon ni ambell un yng Nghymru, cwpwl o bobl o’n i’n nabod.
“Mae o’n ofid sy’n cychwyn poeni wedyn.”
Mae hefyd yn gobeithio y bydd brechlyn ar gael ar gyfer yr ieir, gan ddweud ei fod yn credu y byddai ffermwyr yn “fwy na bodlon i dalu” amdano.
‘Costus ofnadwy’
Wrth drafod beth fyddai achos ar ei fferm yn ei olygu i’r busnes, dywedodd Llion: “Ti’n colli’r ieir i gyd yn amlwg.
“Ond yr ochr glanhau sydd yn gostus ofnadwy.”
Yn ôl ei ddealltwriaeth ef, fe allai gwaith glanhau manwl ar ôl achos gostio dros £100,000.
“Neu elli di jyst neud y primary cleaning sydd yn degau o filoedd, a wedyn ti’n gorfod gadael yn wag am ddeuddeg mis,” meddai.
“Pan ti efo dyledion i dalu, mae colled o incwm mawr ofnadwy wedyn.”
Dywedodd fod mesurau bioddiogelwch bellach yn rhan arferol o redeg y busnes.
Mae ffliw adar wedi’i gadarnhau mewn adar gwyllt yng Nghymru y mis hwn, gan gynnwys bwncath yn Sir y Fflint a chwtiad y traeth yn Sir Benfro.
Yn ôl cofnodion yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, roedd 14 o adar gwyllt wedi profi’n bositif yng Nghymru eleni hyd at 17 Tachwedd.
Mae mesurau i gadw adar dan do neu ar wahân i adar gwyllt wedi’u cyflwyno dro ar ôl tro yng Nghymru ers 2016.
Cafodd y gorchymyn blaenorol i gadw adar dan do ei godi ar 9 Ebrill eleni, ar ôl bod ar waith ers mis Tachwedd 2025.
Croesawu’r gorchymyn
Dywedodd cadeirydd Bwrdd Dofednod NFU Cymru, Victoria Shervington-Jones: “Mae NFU Cymru yn croesawu penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno gorchymyn cadw dofednod dan do, gan ganiatáu i’r diwydiant weithredu’n gynnar a lleihau’n fawr y risg o adar dan do yn dal y clefyd gan adar gwyllt.
“Mae’n hanfodol o hyd bod busnesau dofednod, waeth pa mor fawr neu fach, yn chwarae eu rhan i gadw’r clefyd draw drwy barhau â’r safonau bioddiogelwch uchaf ar y fferm.
“Dylai defnyddwyr Cymru fod yn dawel eu meddwl bod y mesur dros dro hwn yn angenrheidiol er lles dofednod.”
Ychwanegodd y byddai’r cyfyngiadau’n cael eu codi pan fyddai cyngor milfeddygol yn nodi bod y risg wedi lleihau a’i bod yn ddiogel i’r adar fynd allan eto.
Bydd y gofyn i gadw adar dan do yn ychwanegu at fesurau bioddiogelwch sydd wedi bod ar waith ledled Cymru ers 16 Tachwedd.