Achos Neil Foden: Angen i Gyngor Gwynedd 'luchio'i drysau ar agor’ medd arweinydd
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd wedi dweud bod angen “lluchio drysau'r cyngor ar agor” wrth iddi gefnogi galwad am ymchwiliadau annibynnol pellach i’r hyn aeth o’i le yn achos Neil Foden.
Dywedodd Nia Jeffreys ei bod hi’n teimlo fel ei bod “eisiau taflu i fyny” wrth ddarllen Adolygiad Ymarfer Plant (AYP) damniol i achos y pedoffeil o gyn-brifathro.
Fe bleidleisiodd Cyngor Gwynedd ddydd Iau ar gynnig gan y Cynghorydd Beca Brown i’r cabinet “ystyried pa ymchwiliadau annibynnol pellach sydd eu hangen er mwyn cyfarch yr hyn sydd yn mynd tu hwnt i ffiniau’r AYP”.
“Rydym yn gwbl effro i’r ffaith fod gwaith pellach i’w wneud, ac yn gofyn i’r Cabinet fynd ati yn ddiymdroi i adnabod yr hyn sydd eto i’w gyflawni.”
Fe bleidleisiodd 44 o gynghorwyr o blaid y cynnig, gyda neb yn pleidleisio yn erbyn y cynnig. Fe wnaeth un cynghorydd atal ei bleidlais.
Dywedodd yr arweinydd Nia Jeffreys ei fod yn “rhyddhad ac yn gam ymlaen gallu trafod yr adroddiad yn gyhoeddus.
“Mae mwy i’w wneud i glywed llais dioddefwyr ar draws Gwynedd,” meddai.
“Mae angen lluchio drysau'r cyngor yma’n hollol agored fel bod pobl yn dod i mewn a chraffu ar ein gwaith.”
'Soffistigedig'
Fe gafodd adroddiad a gafodd ei gomisiynu gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru i achos Neil Foden ei gyhoeddi ym mis Tachwedd.
Roedd yr adroddiad yn cyfeirio at dros 50 o gyfleon a gollwyd gan asiantaethau o fis Ionawr 2017 (yn seiliedig ar y digwyddiad cyntaf i gael ei gofnodi) tan 6 Medi 2023, sef diwrnod ei arestiad.
Roedd Neil Foden yn cael ei gyflogi gan Gyngor Gwynedd fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor ac wedi bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Cafodd ei ganfod yn euog o 19 cyhuddiad o gam-drin pedair merch yn rhywiol rhwng 2019 a 2023. Ers euogfarn Foden ym mis Gorffennaf 2024, mae rhagor o ddioddefwyr wedi camu ymlaen.
Wedi i’r achos troseddol ddod i ben, comisiynwyd Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol gan Fwrdd Diogelu Gogledd Cymru.
Dechreuodd y broses ym mis Awst 2024 dan gadeiryddiaeth Jan Pickles OBE.
Dywedodd Jan Pickles wrth gyhoeddi'r adroddiad bod Neil Foden wedi "targedu plant yr oedd yn gwybod oedd yn agored i niwed".
"Roedd Neil Foden yn bedoffeil soffistigedig a greodd ddiwylliant oedd yn caniatáu iddo droseddu yn agored," meddai.