Cyngor Gwynedd yn pleidleisio o blaid cynyddu'r dreth ar dai gwag

Pencadlys Cyngor Gwynedd

Mae Cynghorwyr Gwynedd wedi pleidleisio o blaid codi rhagor o drethi ar dai gwag.

Fe fydd premiwm o 150% yn cael ei godi ar gartrefi sydd wedi bod yn wag yn y sir am 12 mis neu fwy, cynnydd ar y 100% blaenorol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Wyn Jones, Aelod y Cabinet dros Gyllid, nad oedd rheswm i bobl gadw tai yn wag am flynyddoedd ar y tro.

Roedd nifer y tai gwag yng Ngwynedd yn cyfateb i bentref cyntaf, meddai.

Ym Mehefin 2025 roedd 1,121 eiddo gwag hirdymor yn y sir, gyda 316 yn wag am fwy na phum mlynedd.

“Nid codi arian yw nod codi'r premiwm ond cael tai yn ôl i mewn i ddefnydd,” meddai.

Mae’r Cyngor eisoes wedi bod yn codi premiwm treth cyngor o 150% ar ail gartrefi a 100% ar eiddo gwag hirdymor.

Penderfynwyd cadw'r premiwm treth cyngor o 150% ar ail gartrefi'r un fath.

Mae deddfwriaeth yn rhoi caniatâd i’r Cyngor i godi premiwm o hyd at 300% ar ail dai a thai gwag.

Pleidleisiodd 39 o blaid y cynnig, 10 yn erbyn ac fe wnaeth tri atal eu pleidlais.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.