Dwy record a dwy fedal efydd i Gymru ar ail ddiwrnod Gemau'r Gymanwlad
Cipiodd Cymru ddwy fedal efydd ar ail ddiwrnod Gemau'r Gymanwlad yn Glasgow.
Cafodd y medalau eu hennill yn y pwll nofio, wrth i dim cyfnewid cymysg y 4x100m dull rhydd ddod yn drydydd.
Roedd Matt Richards, Bex Sutton, Dan Jones, Theodora Taylor yn dynn wrth sodlau Lloegr a ddaeth yn ail.
Awstralia gipiodd y fedal aur.
Llwyddodd y Cymry i sicrhau'r fedal efydd drwy dorri'r record Gymreig, gan gwblhau'r ras mewn 03:24:33.
Roedd y pedwar wrth eu boddau wrth gael eu holi ar raglen S4C o'r gemau.
Dywedodd Bex Sutton: "Ry'n ni i gyd wedi gweithio'n galed a gwneud ein rhan, yn unigol ac wedi dod at ein gilydd yn eithriadol fel tîm. Rwy'n hynod falch o'r criw hyn a phawb oedd yn rhan ohono."
Daeth y fedal efydd arall yn y dull rhydd S14 200m i ddynion.
Roedd dau Gymro yn y rownd derfynol sef Rhys Darbey o Lannau Dyfrdwy a Dylan Broom o Dorfaen.
Broom orffennodd yn y trydydd safle, ond cafodd ei ddiarddel am gamgymeriad ar ddechrau'r ras.
Golygodd hynny mai Darbey gipiodd y fedal efydd.
01:56:24 oedd ei amser ac fe dorrodd e'r record Gymreig.
Mae hynny'n golygu fod gan Gymru dair medal bellach ar ôl i'r nofwraig Ela Letton-Jones o'r Felinheli, Gwynedd gamu ar y podiwm a chipio'r fedal arian ar noson agoriadol Gemau'r Gymanwlad.