Dynes o Wrecsam yn galw ar y Senedd i wneud rhagor ar gyfer cleifion tiwmor yr ymennydd
Mae dynes o Wrecsam yn galw ar y Senedd i wneud rhagor ar gyfer cleifion sy'n byw â thiwmor yr ymennydd yng Nghymru yn dilyn diagnosis ei gŵr.
Yn gynharach eleni, fe dderbyniodd Joshua Smith, 34 oed, ddiagnosis o glioblastoma gradd 4, sydd yn diwmor ar yr ymennydd nad oes modd gwella ohono.
Fe ddechreuodd Joshua brofi meigryn difrifol ym mis Chwefror, ac fe aeth at ei Feddyg Teulu.
"Doedd Joshua heb fod at ei Feddyg Teulu ers 2009, ac iddo gael meigryn a wnaeth bara 10 diwrnod, doedd hynny ddim yn arferol iddo," meddai Kelly.
Ychydig ddyddiau yn ddiweddarach, fe aeth Joshua i'r Adran Achosion Brys yn yr ysbyty, ac yn y diwedd, fe gafodd sgan CT.
"Fe wnaethon nhw alw ni fewn fel teulu a dweud eu bod wedi dod o hyd i fàs 4.5cm ar ei ymennydd," meddai Kelly.
"Mewn ffordd ryfedd, roedd o'n ychydig o ryddhad oherwydd o'r diwedd, roeddem ni'n gwybod."
Dywedodd y meddygon wrth y teulu y byddai Joshua angen llawdriniaeth a'i fod yn debygol o fod yn glioblastoma.
Wedi tair awr o lawdriniaeth, fe lwyddodd doctoriaid i gael gwared â thua 95% o'r tiwmor.
Mae bellach wedi dechrau triniaeth radiotherapi ac fe fydd angen iddo gael triniaeth cemotherapi hefyd, yn ogystal â sgan MRI bob tri mis.
"Rydym ni hefyd yn edrych ar dreialon clinigol a thriniaethau dramor," meddai Kelly.
"Mae yna opsiynau sy'n rhoi gobaith i bobl, ond nid ydyn nhw bob amser ar gael yma, sy'n rhwystredig iawn."
Mae'r cwpl wedi creu ymgyrch codi arian ar gyfer Ymchwil Tiwmor yr Ymennydd, ac yn cefnogi maniffesto'r elusen 'It's Time to do Things Differently'.
Mae'r maniffesto yma yn amlinellu'r ffaith na chafodd unrhyw gleifion tiwmor yr ymenydd eu recriwtio i dreialon clinigol yng Nghymru rhwng 2019 a 2024.
Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Bydd Cynllun Canser y llywodraeth newydd hon yn amlinellu’r dull gweithredu o ran ymchwil, arloesi a gwella mynediad at dreialon clinigol fel y gall cleifion elwa ar driniaethau newydd.
"Rydym hefyd yn cynllunio Cynhadledd Canser Cymru i ddod ag arbenigwyr ynghyd a rhannu arferion gorau yn y maes gofal canser."