Tanau gwyllt yn ail gydio yng Nghymru wrth i'r gwynt godi
Yn ôl Gwasanaeth Tân y Gogledd, mae sawl tân wedi ailgydio brynhawn Sadwrn wrth i'r gwynt godi.
Mae hynny wedi digwydd yn ardaloedd Mynydd Conwy, Mynydd Bangor yn ogystal ag ardal Harlech a choedwig Bronaber a Chwm Nantcol yn Eryri
Fore Sadwrn, dychwelodd hofrennydd i fynyddoedd y Rhinogydd ger Harlech am yr ail ddiwrnod i gynorthwyo criwiau tân sy’n mynd i’r afael â’r tanau gwyllt yn yr ardal.
Cafodd yr hofrennydd ei ddefnyddio gyntaf ddydd Gwener i helpu criwiau i gyrraedd ardaloedd anodd ac anghysbell lle’r oedd y tân yn dal i losgi.
Mewn diweddariad brynhawn Sadwrn, dywedodd y Rheolwr Cyflwyno Gwasanaeth, Jami Jennings: "Mae adnoddau ychwanegol wedi'u defnyddio fel rhagofal i sicrhau bod y sefyllfaoedd tân hyn yn cael eu rheoli. Mae hofrennydd diffodd tân hefyd yn parhau ar y safle ochr yn ochr â chydweithwyr o Cyfoeth Naturiol Cymru."
Mae’r gwasanaeth hefyd yn parhau i fonitro nifer o danau eraill ledled y gogledd, gan gynnwys Pentrefelin yng Nghaergybi, Pentre Helygain a Mynydd yr Hôb yn Sir y Fflint, Mount Pleasant ym Mrymbo ger Wrecsam a Bwlch Sychnant yng Nghonwy.
Tanau eraill ledled Cymru
Yn Sir Torfaen yn y de, mae’r gwasanaethau brys yn parhau i fynd i’r afael â thanau gwyllt sydd wedi effeithio ar 220 hectar o dir cymysg ym Mlaenafon.
Mae llinell atal lawn wedi’i chreu o amgylch y tân er mwyn ceisio’i gadw dan reolaeth, a bydd criwiau’n aros yn y lleoliad cyhyd ag y bo angen.
Yn y Rhondda, cafodd trigolion Glynrhedynog eu rhybuddio nos Wener y gallai mwg o dân yn yr ardal effeithio ar y gymuned.
Cafodd pobl eu cynghori i aros dan do a chadw ffenestri a drysau ar gau os oedd mwg yn effeithio arnyn nhw.
Mae’r gwasanaeth tân hefyd wedi cynghori pobl i gadw anadlyddion a meddyginiaeth wrth law, gan fod mwg yn gallu achosi llid i’r llygaid, y trwyn a’r gwddf.
Tu allan i Gymru
Mae tanau gwyllt yn achosi trafferthion mawr mewn gwledydd eraill hefyd.
Yn yr Alban, mae rhai o drigolion Nethy Bridge, ger tanau gwyllt y Cairngorms, wedi dewis aros yn eu cartrefi ar ôl cael eu cynghori i adael fel rhagofal.
Maen nhw wedi beirniadu ymateb yr awdurdodau, gan ddweud y dylai digwyddiad mawr fod wedi’i ddatgan yn gynharach.
Mae mwy na 220,000 o bobl wedi cael gorchymyn i adael eu cartrefi yn Ffrainc a Sbaen.
Mae'r awdurdodau yn Ffrainc wedi gorchymyn i bron i 60,000 o bobl adael ardaloedd ger Bordeaux, gyda thua 200,000 wedi cael eu symud o ranbarthau Gironde a Landes yn ne-orllewin y wlad.
Mae Arlywydd Ffrainc, Emmanuel Macron, wedi galw ar y fyddin i gynorthwyo.
Yn Sbaen, mae swyddogion wedi rhybuddio bod tân ger Madrid y tu hwnt i allu diffoddwyr tân i’w reoli ar hyn o bryd, ar ôl i dri thân i’r gorllewin o’r brifddinas uno’n un tân mawr.
Llun: Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
