‘Dw i ’di cael y bug gan dad’: Tad a merch yn mynd amdani yng ngornest Cneifio Corwen
‘Dw i ’di cael y bug gan dad’: Tad a merch yn mynd amdani yng ngornest Cneifio Corwen
Fe fydd tad a merch o Ddyffryn Ogwen yn cystadlu ochr yn ochr yng ngornest Cneifio Corwen y penwythnos hwn.
Mae Elfed a Beca Jackson yn teithio i sioeau cneifio ledled Cymru gyda’i gilydd, er nad ydyn nhw’n cystadlu yn yr un categorïau.
Mae Elfed, sy’n wreiddiol o Fraich Tŷ Du yn Nant Ffrancon ger Bethesda, wedi bod yn cneifio ers pan oedd yn 14 oed.
“Mae gen i ofn bod yr 14 ’di diflannu’n 64 rŵan,” meddai. “Dw i’n dal i gystadlu. Dim ots beth sy’n digwydd.
“Win or lose, dach chi’n dal i gystadlu.”
Dilyn ôl troed ei thad
Dechreuodd Beca gystadlu pan oedd hi’n 16 neu’n 17 oed, ar ôl cael ei hysbrydoli gan ei thad.
Mae Elfed yn hyfforddwr gyda British Wool ac wedi cyrraedd lefel Elite.
“Dw i ’di cael y bug gan dad,” meddai Beca.
“Mae’n braf gallu cystadlu yn y sioeau yma a bod dad yn cystadlu hefyd.
“Er bod ni ddim yn yr un categori, mae’n braf gallu mynd o gwmpas a theithio efo’n gilydd.”
Mae Beca hefyd yn cystadlu mewn gornestau lapio gwlân a chneifio â pheiriant.
Y llynedd, hi oedd yr unig ferch yn rownd derfynol cystadleuaeth yr adran iau yng Nghneifio Corwen, cyn mynd ymlaen i ennill.
“Yn bersonol, dw i’m yn gweld y gwahaniaeth rhwng cystadlu yn erbyn y bechgyn,” meddai.
“Roedd hi’n brofiad anhygoel rili, cerdded lawr o’r cefn wrth y bar drwy bawb ac efo ’di cael dewis cân ein hunain.
“Mae pawb yn gweiddi a phethau felly, so lot o pressure arnoch chi i neud yn dda.”
‘Sioe arbennig’
Dywedodd Elfed fod Cneifio Corwen wedi datblygu i fod yn un o uchafbwyntiau’r tymor.
“Mae ’di tyfu’n andros o sioe dda, ac mae pawb, i ddweud y gwir, yn edrych ymlaen i gael mynd i Gorwen,” meddai.
“Mae’r wefr o gael mynd i fyny ar y stage yna i gynrychioli chdi dy hun a dy wlad yn werth y byd.”
Dywedodd Beca fod y cysylltiad lleol a’r awyrgylch Cymreig yn gwneud y digwyddiad yn arbennig.
“Mae Corwen yn sioe arbennig gan bod hi’n sioe leol i fan’ ni adre,” meddai.
“Mae dipyn o Gymraeg yna. Mae’r gynulleidfa’n anhygoel.
“Mae Corwen a’r Royal Welsh yn ddwy o’r sioeau gorau yn y byd, dw i’n meddwl.”
Bydd Cneifio Corwen yn fyw ar sianel YouTube S4C am 17:00 ddydd Sadwrn