Yr Eisteddfod yn 'cynyddu lefelau cynllunio' wrth i gyfyngiadau dŵr daro bro'r Brifwyl

Llun: Llywelyn2000, CC BY 4.0 via Wikimedia Commons
Arwydd 'Eisteddfod' yn y Genedlaethol yn 2025
Mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn dweud eu bod wedi "cynyddu lefelau cynllunio" a pharatoi "mesurau ychwanegol" i sicrhau cyflenwadau dŵr wrth i gyfyngiadau ddod i rym ym mro'r Brifwyl.
 
Ers dydd Sul mae gwaharddiad ar bibellau dyfrio ar waith mewn rhannau o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, gan gynnwys ardal Llantwd, sy'n paratoi i groesawu miloedd o Eisteddfodwyr.
 
Yn ôl Dŵr Cymru, mae'r gwaharddiad - sy'n atal y defnydd o bibellau er mwyn dyfrio'r ardd neu lanhau ceir - yn ymateb i "gyfnod estynedig digynsail o alw mawr am ddŵr yn sgil tywydd poeth a sych parhaus." 
 
Gofynnodd Newyddion S4C i drefnwyr yr Eisteddfod, a fydd yn dechrau ar 1 Awst, pa gamau maen nhw wedi eu cymryd i sicrhau cyflenwad dŵr y Brifwyl yn sgil y cyhoeddiad gan brif reolwyr rhwydwaith dŵr y wlad.
 
Dywedodd yr Eisteddfod eu bod yn "gweithio’n agos gyda Dŵr Cymru i sicrhau bod cyflenwad dŵr addas ar gael ar y Maes drwy gydol yr ŵyl."
 
"Rydym wedi cynyddu ein lefelau cynllunio wrth weithio gyda Dŵr Cymru a’n tîm gweithredol i sicrhau bod mesurau ychwanegol ar waith pe bai cyfnod o sychder.
 
"Mae hyn yn cynnwys monitro defnydd dŵr yn fwy manwl, sicrhau bod digon o gyflenwad wrth law, a chynlluniau wrth gefn os bydd angen."
 
Image
Map Gwaharddiau Pibell Dŵr - Dŵr Cymru
 
Fel gŵyl sy'n denu dros 170,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn cynnal sawl llwyfan a meysydd i garafannau a phebyll, mae isadeiledd helaeth tu ôl i unrhyw Eisteddfod, gan gynnwys rhwydwaith dŵr. 
 
Ymhlith y cyfleusterau eleni, yn ôl gwefan yr ŵyl, bydd pwyntiau dŵr "ar hyd a lled y maes" i annog ymwelwyr i ddefnyddio poteli aml-ddefnydd. Bydd dim poteli dŵr plastig ar werth, yn ôl y wefan.
 
Fe ddywedodd yr ŵyl nad oes "unrhyw gyfyngiadau ychwanegol" wedi eu cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer y miloedd o ymwelwyr, stondinwyr a charafanwyr fydd mynd i'r Brifwyl.
 
"Fodd bynnag, rydym yn annog pawb ar y Maes i fod yn ymwybodol o’u defnydd ac i osgoi gwastraffu dŵr," meddai llefarydd. 
 
"Os bydd unrhyw newidiadau neu gyfyngiadau’n dod yn angenrheidiol, byddwn yn cyfathrebu’n glir ac yn brydlon."
 
Dywedodd y trefnwyr bod mesurau rheoli dŵr ar waith ar y safle, gan gynnwys systemau rheoli effeithlon, offer sy'n defnyddio llai o ddŵr, trefn monitro defnydd dŵr a "phrosesau clir i staff os bydd angen cyfyngu neu ailgyfeirio defnydd." 
 
Er y paratoadau, dydy'r Eisteddfod ddim yn disgwyl bydd y cyfnod o dywydd sych yn effeithio'n ormodol ar yr ŵyl. 
 
"Nid ydym yn rhagweld unrhyw effaith sylweddol ar weithrediad yr ŵyl," meddai'r trefnwyr. "Mae ein trefniadau’n ddigon cadarn i alluogi’r Eisteddfod i fynd yn ei blaen fel arfer, hyd yn oed mewn cyfnodau o sychder."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.