Coeden o Gymru ar restr fer Coeden y Flwyddyn y DU

Derwen Eglwys Fach

Mae coeden o Gymru yn un o 10 ar restr fer Coeden y Flwyddyn y DU gyda’r Woodland Trust,  sef mudiad Coed Cadw yng Nghymru.

Mae Derwen Eglwys Fach ger Machynlleth yn ymuno â dwy goeden o’r Alban, un o Ogledd Iwerddon a chwech o Loegr ar y rhestr fer.

Dywedodd yr ymddiriedolaeth goedwigaeth fod Derwen Egwlys Fach yn “goeden sy'n sefyll ar ei phen ei hun ac yn anarferol yn y dirwedd hon yng nghanolbarth Cymru, yn tyfu yng ngwarchodfa natur Ynys-hir". 

“Fel gwarchodwr unig, mae wedi gwrthsefyll blynyddoedd o stormydd a sychder yn ogystal â phori gan anifeiliaid, ac wedi cynnig cysgod a lloches i lawer o gerddwyr blinedig a phobl oedd yn mwynhau picnic ar Lwybr Arfordir Cymru."

Fe allai fod tywydd garw Gorllewin Cymru wedi effeithio ar ei thwf dros y blynyddoedd, gan ei gwneud hi'n anoddach i amcangyfrif ei hoedran. 

Er ei bod yn fach o ran maint, mae'n goeden nodedig sydd wedi goroesi.

Dathlu coed

Ychwanegodd y Woodland Trust mai nod y gystadleuaeth yw “tynnu sylw at bwysigrwydd hanfodol coed i'n tirweddau a'n bywydau, a'u gwerthfawrogi”.

Dywedodd llefarydd ar eu rhan: “Mae coed yn glanhau ein haer, yn oeri ein strydoedd, yn lleihau llifogydd, yn cefnogi bywyd gwyllt ac yn hybu ein hiechyd a'n lles. 

"Mae cystadleuaeth 'Coeden y Flwyddyn' eleni yn dathlu'r coed hynny sydd wedi gwneud mwy na'r disgwyl, gan oroesi amrywiaeth o heriau a dal i sefyll yn gadarn yn wyneb amgylchiadau anodd. 

"Cafodd ein panel o arbenigwyr y dasg anodd o lunio rhestr fer o'r 10 coeden ysbrydoledig hyn ar gyfer cystadleuaeth eleni. Nawr, eich tro chi yw hi i bleidleisio dros eich hoff un a'n helpu i goroni pencampwr fel 'Coeden y Flwyddyn 2026'."

Mae modd pleidleiso dros eich hoff goeden ar wefan y Woodland Trust tan 17:00 ar 29 Medi a bydd yr enillydd yn cael ei gyhoeddi ym mis Hydref.

Llun: Woodland Trust/Will Barker

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.