Llofrudd Southport yn ceisio 'achosi loes' eto o'i gell

Presenoldeb y heddlu yn Southport

Mae cyfreithiwr ar ran teuluoedd y merched a gafodd eu lladd gan Axel Rudakubana yn pryderu fod llofrudd Southport yn ceisio achosi loes unwaith eto iddyn nhw, o'i gell.

Bron ddwy flynedd ers y gyflafan ar Lannau Mersi, daeth hi i'r amlwg ddydd Gwener fod Axel Rudakubana, a dreuliodd ran o'i blentyndod yng Nghaerdydd, wedi’i drosglwyddo o garchar Belmarsh i ysbyty seiciatrig diogel Broadmoor, yn ne Lloegr. 

Cafodd Rudakubana, sydd bellach yn 19 oed ei ddedfrydu i garchar am oes am lofruddio Alice da Silva Aguiar, naw oed, Bebe King, chwech oed, ac Elsie Dot Stancombe, saith oed, a cheisio llofruddio wyth plentyn arall a dau oedolyn. 

Mae’r costau o gadw carcharor mewn uned fel Broadmoor tua £300,000 y flwyddyn i’r trethdalwyr, o’i gymharu â chostau o thua £60,000 y flwyddyn am le i un person mewn carchar.

Ddydd Mercher, bydd yn union ddwy flynedd ers yr ymosodiad mewn dosbarth dawns yn Southport. 

Yn ôl y Weinyddiaeth Gyfiawnder, ni fydd dedfryd Rudakubana, sef isafswm o 52 o flynyddoedd o dan glo yn newid, er ei fod wedi ei symud i ysbyty seiciatrig.  

Ar raglen BBC Breakfast, dywedodd y cyfreithiwr Chris Walker, sy'n cynrychioli teuluoedd y merched: "Mae'n bryderus iawn i mi fod hwn yn batrwm sy'n dechrau datblygu, sef ei fod yn ceisio achosi loes i'r teuluoedd unwaith eto o'i gell."

Nododd hefyd ei fod yn pryderu'n fawr y gallai hyn ddigwydd bob blwyddyn adeg dyddiad yr ymosodiad.

Ychwanegodd nad oedd unrhyw awgrym fod gan Rudakubana unrhyw fath o seicosis pan gyflawnodd yr ymosodiad. 

Llythyr

Derbyniodd y teuluoedd lythyr ar 22 Gorffennaf yn rhoi gwybod iddyn nhw y byddai Rudakubana yn cael ei symud, ond doedd dim manylion ynghylch y rheswm dros ei drosglwyddo o garchar i ysbyty meddwl.  

Dywedodd Mr Walker: "Gyda chyn lleied o wybodaeth, y pryder ydy ei fod e'n dylanwadu ar y sefyllfa er ei les ei hun." 

Ychwanegodd: "Gyda hyn yn cael ei ddatgelu bron ddwy flynedd union ers yr ymosodiad, mae'n ymddangos nad cyd-ddigwyddiad yw hynny." 

Nododd ei bod yn anodd gwybod ai'r Llywodraeth yn San Steffan sydd wedi ymdrin â'r mater yn wael, neu ai Rudakubana sydd wedi "llywio'r" cyfan.

Dywedodd Sally Jameson, yr is-weinidog tai sydd hefyd yn gyn -swyddog carchar y byddai Rudakubana yn dychwelyd i garchar "cyn gynted â bo modd" ac nad oedd yn gwybod beth oedd y rheswm dros ei symud.

Yn ôl y cyfreithiwr Chris Walker, mae'r teuluoedd yn credu fod angen iddo dreulio ei ddedfryd mewn carchar, ac na ddylai fod mewn ysbyty.   

"Mae angen iddo fod mewn carchar," pwysleisiodd. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.